<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 14 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:49, 14 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, mae’r ffeithiau, wrth gwrs, yn gwrth-ddweud hynny, ac rwy’n credu bod Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn ymgynghoreion eithaf dibynadwy ar y materion penodol hyn. Ond mae yna atebion eraill i broblem llygredd nitrad, ac maent wedi cael eu gweithredu yn Lloegr. Mae’r Gwasanaeth Datblygu a Chynghori Amaethyddol wedi cynhyrchu llyfryn sy’n dwyn y teitl, ‘101 ways to reduce nitrates’. Yn wir, yng Nghymru, mae’r defnydd o wrtaith nitrad wedi gostwng 43 y cant rhwng 1990 a 2013, felly nid yw fel pe na bai dim byd yn digwydd yn y byd go iawn. Ac mewn gwirionedd, yn ardal Cleddau yn Sir Benfro, roedd yn rhaid i un hufenfa dorri 8 tunnell fetrig oddi ar ei gwastraff nitrad, a daeth ffermwyr lleol at ei gilydd i ffurfio cwmni cydweithredol—25 ohonynt—a llwyddodd pob un ohonynt i dorri tunnell yr un oddi ar eu gwastraff nitrad eu hunain. Felly, llwyddasant mewn gwirionedd i dorri cyfanswm o 25 tunnell oddi ar y gwastraff nitrad yn yr ardal honno. Nawr, mae hynny wedi digwydd heb ddull llawdrwm y gyfundrefn y mae Ysgrifennydd yr amgylchedd yn ymgynghori arni ar hyn o bryd. Felly, rwy’n meddwl tybed os gallaf gael—heb achub y blaen ar ganlyniad yr ymgynghoriad, yn amlwg—ymrwymiad meddwl agored ganddi i edrych ar bethau yn eu cyfanrwydd ac i ystyried, er hynny, y posibilrwydd o gyfundrefn wirfoddol os nad yw canlyniad yr ymgynghoriad yn bendant.