<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 14 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:51, 14 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, rydym yn gwneud cynnydd. Rwy’n golygu hynny fel canmoliaeth. Wel, mae’n rhaid i mi ddweud, yn ei hatebion i mi o’r blaen, Lywydd, y cwbl rwyf wedi’i gael yw atebion unsill ar fater asesiadau effaith rheoleiddiol, er enghraifft, sy’n rhan o god ymddygiad y Llywodraeth ei hun. Maent wedi addo cael asesiadau effaith rheoleiddiol fel rhan o ymgynghoriadau fel hyn, ac nid oes un, ac rwy’n credu mai’r rheswm am hynny yw’r hyn y cyfeiriodd Paul Davies ato.

O gofio y byddwn yn gadael yr UE o fewn y ddwy neu dair blynedd nesaf, erbyn i’r ymgynghoriad hwn ddod i ben ac erbyn y bydd y rheoliadau mewn sefyllfa i gael eu gweithredu, efallai mai dim ond mater o fisoedd fydd ar ôl beth bynnag. Yn sicr, mewn amgylchiadau fel hyn, lle y mae gennym gyfle i deilwra rheoliadau sy’n gweddu i Gymru fel endid ar wahân, yn hytrach na threfn sy’n cwmpasu cyfandir cyfan, mae’n rhaid ei bod yn gwneud synnwyr i gael moratoriwm ar fesurau fel hyn, a all effeithio’n ddinistriol ar fusnes ar gyfer gwelliannau ymylol yn ansawdd yr amgylchedd, o gofio bod yna ffyrdd eraill o ddatrys y broblem.