Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Rwy’n siŵr y buasai’r Aelod wrth ei fodd yn gadael yr UE yn llawer cyflymach nag y byddwn yn ei wneud, ond rydym yn dal i fod yn yr UE. Tra byddwn yn yr UE, mae angen i ni barchu ein dyletswyddau i’r UE. Felly, yn anffodus nid wyf yn cytuno â chi ar y pwynt hwnnw. Yn y dyfodol, ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, bydd yn fater cwbl wahanol, os mynnwch. Mae angen i ni sicrhau felly fod y polisïau penodol hyn yn iawn i Gymru. Ond ar hyn o bryd, rydym yn dal i fod yn yr UE.