<p>Ansawdd Aer</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 14 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:03, 14 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Ar hyd a lled Caerdydd, mae yna rai ardaloedd lleol lle y mae llygredd aer yn broblem, yn bennaf, rwy’n credu, o ganlyniad i allyriadau traffig ar y ffordd. Yn y lleoliadau hyn, mae gennym ardaloedd sydd wedi’u datgan yn ardaloedd rheoli ansawdd aer gan yr awdurdod lleol. Eu dyletswydd hwy yw mynd i’r afael ag ansawdd aer lleol. Rwyf wedi cael fy sicrhau y bydd eu cynlluniau gweithredu i gyd yn eu lle cyn bo hir, yn unol â chanllawiau statudol.

Rwy’n credu bod mynd i’r afael â llygredd aer, mewn gwirionedd, yn gofyn am agwedd gydweithredol. Rydym ar hyn o bryd, fel y dywedais, yn adolygu’r ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus, ac rwy’n gobeithio y byddaf yn bwydo canlyniadau’r ymgynghoriad hwnnw i awdurdodau lleol, oherwydd fel y dywedaf, eu cyfrifoldeb hwy yw gwneud yn siŵr eu bod yn cyflawni eu holl ofynion.