Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, rydych wedi crybwyll allyriadau traffig ffordd ac mae’n amlwg eu bod yn chwarae rhan arwyddocaol iawn o ran llygredd aer a’r effaith ar iechyd pobl. Mae allyriadau diesel yn arbennig o arwyddocaol. A fyddech yn cytuno â mi fod—? Y gobaith yw y byddwn yn symud at gerbydau trydan cyn gynted ag y bo modd, ond cyn i ni wneud hynny, mae camau ymarferol eraill y gellir eu cymryd i fynd i’r afael â’r materion hyn, megis trosi fflydoedd tacsi o ddiesel i nwy petrolewm hylifedig. Mae’r diwydiant yn dweud wrthyf y gellir cyflawni hynny gyda rhywfaint o gymorth grant, efallai, a gallent ad-dalu’r grant hwnnw o fewn cyfnod o tua dwy flynedd.