Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, roedd hon yn ddamwain ddiwydiannol, roedd yn annisgwyl, roedd yn anfwriadol, ac rwyf hefyd yn edrych ymlaen at yr adroddiad. Hoffwn ganmol Valero a Cyfoeth Naturiol Cymru am y ffordd gyflym iawn y maent wedi delio â hyn. Hoffwn i ni i gyd gadw rhag lleisio barn. Mae Valero yn gwmni cryf iawn yn fy etholaeth ac mae ganddynt hanes amgylcheddol sydd, mae’n werth nodi, yn hynod o dda. Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn gwybod, Ysgrifennydd y Cabinet, pa wersi y gellid eu dysgu am beth arall a allai fod yn digwydd yn y biblinell wrth iddi symud ymlaen drwy Gymru. A oes unrhyw ffyrdd eraill y gallem fonitro’r biblinell honno i sicrhau nad fydd yr arllwysiad olew y mae Adam Price yn cyfeirio ato yn digwydd yn rhywle arall mewn gwirionedd?