Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Ie, pan oeddwn yn bresennol ar safle’r arllwysiad—ar Ddydd Sadwrn 8 Hydref rwy’n credu—cyfarfûm â Valero a Cyfoeth Naturiol Cymru, ac roeddwn yn falch iawn o weld y ffordd roeddent yn gweithio gyda’i gilydd. Ond rydych yn hollol gywir; ar y pryd, nid oedd achos yr arllwysiad wedi’i ganfod, ond mae’n bwysig—mae’n biblinell hir iawn—mae’n wirioneddol bwysig ei bod yn cael ei monitro mewn ffordd sy’n caniatáu i ni ddysgu’r holl wersi y gallwn i osgoi’r math hwn o arllwysiad eto.