<p>Tlodi Plant yn Nhorfaen</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 14 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:20, 14 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, nid oes gennyf amheuaeth eich bod yn gwneud gwaith ardderchog ar amryw o bethau i leihau tlodi. Rydych wedi cymryd llawer o—[Torri ar draws.] Arhoswch funud. Rydych wedi cymryd llawer o—. [Torri ar draws.] Rydych wedi cymryd llawer o, mae eich Llywodraeth wedi cymryd llawer o fentrau i leihau tlodi ymysg plant—do, cawsom Cymunedau yn Gyntaf, Dechrau’n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, ac yn y blaen ac yn y blaen. Ond y ffaith yw—[Torri ar draws.] Y ffaith yw ein bod yn dal i fod, yn anffodus—ein plant yn Nhorfaen, Islwyn a Blaenau Gwent yw’r plant tlotaf sy’n byw yng ngwledydd y Deyrnas Unedig. Hoffwn ofyn i chi pa fentrau eraill rydych yn eu rhoi ar waith. Rwy’n credu bod ein Llywodraeth yn codi’r lwfans personol i £12,500, a fydd o fudd i lawer o deuluoedd—[Torri ar draws.] —nifer o deuluoedd, 1.5 miliwn, i leihau tlodi mewn gwaith, sef un o amcanion y strategaeth tlodi plant gan Lywodraeth Prydain. Felly, pa gynllun rydych yn mynd i’w roi ar waith i leihau tlodi plant yng Nghymru, os gwelwch yn dda?