Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Diolch i’r Aelod am ei sylwadau ar ddechrau ei gwestiwn; rydym yn ddiolchgar iawn amdanynt. Nid fy lle i yw rhoi gwers hanes i’r Aelod, ond rwyf am ei atgoffa nad yw tlodi yn digwydd drwy hap a damwain—mae pethau’n achosi hynny’n aml. Yn ôl yn y 1980au, pan oedd ei blaid mewn grym yn y DU, llwyddasant i ddinistrio ein cymunedau yng Nghymru gyda’r pyllau glo a’r gweithwyr dur, a chafodd hynny effaith enfawr ar ein pobl ifanc a’u bywydau o’u blaenau.
Gallaf ddweud beth yw ein rhaglenni, ac mae’r Aelod yn eu hadnabod—mae Teuluoedd yn Gyntaf, Dechrau’n Deg a’r holl fecanweithiau cymorth o gwmpas y teulu yn rhai pwysig. Ond ni ddylech dynnu dim oddi ar y ffaith fod eich dulliau diwygio lles yn cael effaith enfawr ar bobl Cymru a’r DU. Dylech chi, fel plaid, feddwl am hynny’n ofalus iawn.