Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae UKIP yn cytuno â phenderfyniad Llywodraeth Cymru i adolygu neu roi diwedd ar y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf. Roedd hon yn strategaeth flaengar gan y Llywodraeth a gynlluniwyd i ddileu amddifadedd yng Nghymru. Er bod rhai enghreifftiau o lwyddiant, mae yna hefyd enghreifftiau amlwg o gamreoli. Er enghraifft, gwariodd y rhaglen Ymddiriedolaeth Ddatblygu 3G ym Merthyr Tudful £1.3 miliwn ar gyflogau staff allan o gyllideb o £1.5 miliwn. A fuasai Ysgrifennydd y Cabinet yn cadarnhau bod pobl Penydarren, Galon Uchaf a’r Gurnos wedi cael cam gan y sefydliad hwn?