<p>Adfywio Cymunedau yn Sir Benfro</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 14 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:54, 14 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs, rwy’n cydnabod yr effaith y gall cau banc ei chael ar etholaethau, ac mae Aelodau eraill wedi nodi hynny hefyd. Ymddengys fod popeth wedi mynd o chwith ers i’r Aelod adael, efallai, o ran ei rôl flaenorol. Yn benodol yn Sir Benfro, rydym yn cefnogi Cyngor Sir Penfro gyda £1.25 miliwn drwy gynllun benthyciadau canol trefi Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid er mwyn lleihau nifer y safleoedd ac eiddo gwag a segur nad ydynt yn cael defnydd digonol yng nghanol y dref ym Mhenfro, Aberdaugleddau a Hwlffordd. Mae’n rhaid i ni weithio mewn partneriaeth er mwyn sicrhau bod hyn yn llwyddiant. Mae’n anodd iawn gweddnewid cymunedau—pan ddaw’r safleoedd hyn yn wag, mae’n anodd eu hailagor. Felly, mae Ken Skates a minnau yn gweithio dros ddwy ran yr adrannau i sicrhau ein bod yn gallu gwneud buddsoddiadau, nid yn unig yn Sir Benfro, ond ledled Cymru.