<p>Adfywio Cymunedau yn Sir Benfro</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 14 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:55, 14 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Weinidog, gall fod canlyniadau annisgwyl i adfywio o bryd i’w gilydd. Mae gwelliannau i’r seilwaith ffyrdd, er enghraifft, yn Abergwaun yn golygu bod Transition Bro Gwaun, sy’n brosiect adfywio cymunedol, yn colli ei gartref sy’n cael ei ddefnyddio i gynnal caffi bwyd dros ben, yn cynnwys llawer o bobl leol, ac sydd hefyd yn gwneud yn wych yn amgylcheddol. Maent hefyd yn gwneud gwaith adfywio ehangach yn yr ystyr fod ganddynt dyrbin cymunedol sy’n eiddo i’r gymuned leol yn rhannol. Yn amlwg, rwy’n derbyn mai penderfyniad ar gyfer Cyngor Sir Penfro yw hwn, a byddaf yn cysylltu â hwy yn uniongyrchol, ond credaf y byddai cyfarwyddyd clir gan Lywodraeth Cymru y dylid mabwysiadu dull integredig i sicrhau nad ydym yn colli pethau wrth gyflawni gweithgareddau adfywio yn ddefnyddiol yn y cyswllt hwn.