Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Dyma holl ddiben y Ddeddf llesiant. Mae llesiant cymuned yn seiliedig ar edrych ar beth sydd ei angen ar y gymuned, yr hyn sydd gan y gymuned a’r hyn y gallwn ei ddatblygu gyda hwy. Unwaith eto, nid wyf yn gyfarwydd â’r hyn sydd yn y cwestiwn penodol iawn a ofynnodd yr Aelod, ond ymddengys i mi y gellid bod wedi cynllunio ar gyfer hyn yn y lle cyntaf. Buaswn yn annog yr Aelod i fynd ar drywydd y mater gyda’r awdurdod lleol.