Part of the debate – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o roi gwybod i’r Aelodau heddiw fod y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn lansio galwad am dystiolaeth ar gyfer ein hymchwiliad sydd i ddod ar hawliau dynol yng Nghymru. Dros yr haf, buom yn ymgynghori â rhanddeiliaid ynglŷn â beth y teimlent y dylai ein blaenoriaethau strategol fod. Roedd nifer o sefydliadau, gan gynnwys Stonewall Cymru, Plant yng Nghymru a Sefydliad Bevan, am i ni wneud gwaith ar hawliau dynol. Roeddent yn tynnu sylw at feysydd sy’n peri pryder, fel effaith y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, yn ogystal â chynigion Llywodraeth y DU i newid deddfwriaeth ddomestig.
Rwy’n disgwyl i hawliau dynol fod yn rhan allweddol o’n hymagwedd at lawer, os nad pob un, o’r ymchwiliadau a gyflawnir gan y pwyllgor. Mae hyn yn sicr yn wir am ein gwaith hyd yma. Ddydd Llun, cyhoeddasom ein hadroddiad cyntaf ar ein gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol ar Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Gwnaethom nifer o argymhellion, gan gynnwys sicrhau bod addysg perthnasoedd iach yn cael ei darparu ym mhob ysgol fel rhan o’r cwricwlwm newydd a roddir ar waith yn dilyn adolygiad Donaldson. Dylanwadodd sylwadau’r cynghorydd cenedlaethol ar y pwyllgor, pan ddywedodd wrthym y dylai’r cwricwlwm gynnwys rhaglenni ataliol gorfodol ar bob math o drais, yn seiliedig ar fframwaith cydraddoldeb rhywiol a hawliau dynol.
Ar hyn o bryd mae’r pwyllgor yn cynnal ymchwiliad ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru. Rydym wedi ymweld â darparwyr gwasanaethau a defnyddwyr gwasanaethau yng Nghaerdydd ac Abertawe, ac wedi dechrau casglu tystiolaeth ar lafar yr wythnos diwethaf. Mae’n dod yn amlwg fod deall a gorfodi eu hawliau yn fater allweddol i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi.
Yr wythnos cyn yr wythnos diwethaf buom yn Glasgow a Chaeredin. Roeddem yn awyddus i gymharu dulliau o gefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru a’r Alban. Cawsom gyfarfod cynhyrchiol iawn hefyd gyda chynullydd Pwyllgor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Senedd yr Alban, Christina McKelvie ASA. Mae cryn botensial i waith ar y cyd ar hawliau dynol ac amryw o faterion eraill. Edrychaf ymlaen at ragor o drafod gyda Christina a’n cymheiriaid ledled y DU a thu hwnt. Byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth i’r Aelodau wrth i’r cysylltiadau hyn ddatblygu.
Ond gadewch i mi ddychwelyd, Lywydd, at yr ymchwiliad rydym yn ei lansio heddiw. Buaswn yn ddiolchgar pe bai’r Aelodau yn tynnu sylw pobl yn eu hetholaethau a’u rhanbarthau at y gwaith hwn. Rwy’n fwy na pharod i ddarparu rhagor o wybodaeth a deunyddiau er mwyn helpu’r Aelodau i roi cyhoeddusrwydd i’r ymchwiliad ac annog adborth. Buaswn yn eich annog i drafod eich anghenion penodol gyda’r swyddogion sy’n cefnogi’r pwyllgor. Po fwyaf yr ystod o dystiolaeth, y mwyaf cymwys fydd y pwyllgor i wneud argymhellion a dwyn y Llywodraeth i gyfrif mewn perthynas â’r mater hwn. Y dyddiad cau ar gyfer ein hymgynghoriad yw 10 Chwefror. Rydym yn disgwyl gallu cynnal sesiynau tystiolaeth lafar ym mis Mawrth, cyn toriad y Pasg.
Mae hawliau dynol yn bwnc eang a chymhleth. Ar gyfer ein gwaith cyntaf ar y mater hwn yn benodol, mae’r pwyllgor wedi penderfynu mabwysiadau ymagwedd lefel uchel â ffocws. Wrth fabwysiadu’r ymagwedd hon, rydym yn awyddus i adeiladu ar waith blaenorol yn y maes. Yn benodol, rydym yn awyddus i wneud gwaith dilynol ar ymchwiliad Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y pedwerydd Cynulliad yn 2013 i ddyfodol cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Byddwn hefyd yn adeiladu ar y drafodaeth arbenigol a gynhaliwyd yn 2014 gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Roedd y drafodaeth hon yn cynnwys materion megis y setliad datganoli presennol mewn perthynas â hawliau dynol, yr ymagwedd at hawliau dynol mewn deddfwriaeth Gymreig, arferion da a gwael, a datblygu’r agenda hawliau dynol yng Nghymru.
Mae tair cydran i’n cylch gorchwyl. Yn gyntaf, rydym yn awyddus i archwilio effaith y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar y gwaith o amddiffyn hawliau dynol yng Nghymru. Diogelir hawliau dynol gan gasgliad cymhleth o ddeddfau a chytundebau. Ni fydd statws y DU fel un o lofnodwyr y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol yn cael ei effeithio’n awtomatig o ganlyniad i’r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r confensiwn yn gytuniad rhyngwladol ar wahân i gytundebau a siarter hawliau sylfaenol yr UE.
Rwy’n awyddus iawn i’n hymchwiliad gysylltu â’r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud ar y mater hwn gan Gydbwyllgor Senedd y DU ar Hawliau Dynol, yn ogystal â chan Bwyllgor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Senedd yr Alban. Byddaf yn cysylltu’n agos â Chadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol wrth i’r gwaith hwn fynd rhagddo.
Yn ail, rydym yn awyddus i asesu effaith argymhelliad Llywodraeth y DU i gyflwyno deddf hawliau i’r DU yn lle Deddf Hawliau Dynol 1998. Mae hawliau dynol yn rhan allweddol o’r setliad datganoli a chyfansoddiad y DU. Yn ôl yr hyn a ddeallwn, mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gyflwyno deddf hawliau i’r DU yn lle’r Ddeddf Hawliau Dynol, a fyddai’n cyfyngu ar rôl Llys Hawliau Dynol Ewrop. Roedd y Twrnai Cyffredinol i’w weld yn awgrymu yr wythnos diwethaf y gellid gohirio hyn wrth i Lywodraeth y DU ymdrin â materion eraill. Byddwn yn gofyn am eglurhad ynglŷn â’r amserlen.
Yn y cyfamser, rwy’n croesawu’r sicrwydd a roddwyd i’r pwyllgor gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ym mis Medi, pan ddywedodd wrthym y byddai’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau mewn perthynas ag unrhyw gynigion pendant gan Lywodraeth y DU. Rhannaf ei farn y dylai’r Cynulliad Cenedlaethol gymryd rhan lawn mewn unrhyw ymgynghoriad sy’n effeithio ar hawliau dynol pobl Cymru. Yn amlwg, bydd gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol rôl yn archwilio unrhyw gynigion o’r fath. Gobeithiaf y bydd gwaith polisi rhagarweiniol ein pwyllgor yn llywio ystyriaethau o’r fath.
Y drydedd gydran a chydran olaf yr ymchwiliad hwn yw canfyddiadau’r cyhoedd ynglŷn â hawliau dynol yng Nghymru. Rydym yn arbennig o awyddus i weld pa mor ddealladwy a pherthnasol ydynt i bobl Cymru. Rydym yn awyddus i glywed barn pobl ynglŷn â pherthnasedd hawliau dynol ym mywyd pob dydd Cymru, a rôl cyrff cyhoeddus yn ymgysylltu a rhoi gwybod i’r cyhoedd ynglŷn â’u hawliau. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ystyried yr ymagwedd wahanol at hawliau dynol yng Nghymru, er enghraifft, ym Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.
Ddirprwy Lywydd, rwy’n ystyried gwaith y pwyllgor, wrth lansio’r ymchwiliad hwn heddiw, yn rhan o ddull o graffu sy’n seiliedig ar hawliau drwy gydol y pumed Cynulliad. Rwy’n disgwyl y bydd ein rhaglen waith yn cyfuno ymchwiliadau sy’n canolbwyntio’n benodol ar hawliau dynol gydag archwilio’r ystod eang o bynciau yn ein cylch gorchwyl o safbwynt hawliau. Bydd yr ymchwiliad hwn yn nodi’r cyd-destun strategol ar gyfer y dull hwnnw. Byddaf yn fwy na pharod i ateb unrhyw gwestiynau gan yr Aelodau, i’n helpu i lunio’r ymchwiliad hwn. Diolch yn fawr.