Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 10 Ionawr 2017.
Diolch i chi am yr eglurder, gan fy mod i’n credu ei bod yn bwysig deall difrifoldeb y penderfyniad y mae'r gweithwyr dur yn ei wynebu, a’u penderfyniad nhw yw hwn, er tegwch, gan y gofynnir iddynt roi rhywbeth yn gyfnewid am sicrwydd ynghylch dyfodol hirdymor y diwydiant dur yma yng Nghymru. Rydym ni’n deall nawr gan Blaid Cymru eu bod nhw o’r farn y dylai’r cytundeb hwn gael ei wrthod. Beth yn eich barn chi fydd y canlyniadau os caiff y cytundeb hwn ei wrthod i ddyfodol hirdymor a thymor canolig y gweithfeydd hynny a oedd yn meddiannu cymaint o'r agenda wleidyddol yn ogystal â'r agenda gymunedol yn y cymunedau hynny trwy gydol 2016?