<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 10 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:43, 10 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n deall y pryderon y mae Aelodau wedi eu mynegi, ond, fel yr wyf i wedi ei ddweud o'r blaen, nid oes dewis arall ar y bwrdd. Roedd y consortia eraill a oedd â diddordeb mewn cymryd drosodd i gyd yn pryderu am y cynllun pensiwn hefyd. Felly, nid yw mater y cynllun pensiwn byth yn mynd i ddiflannu. Y dewis arall, mae'n debyg, yw y gallai Llywodraeth y DU genedlaetholi'r diwydiant. Gwnaeth eich plaid chi hi’n eglur iawn na fyddwch yn gwneud hynny, ac felly, mae'n ymddangos i mi ar hyn o bryd mai’r cynllun hwn yw hi, neu ddim cynllun o gwbl. Dyna’r hyn y mae’n rhaid i’r gweithwyr ei ystyried.

Mae'n destun gofid i mi nad yw Llywodraeth y DU—roedd pethau’n wahanol o dan y Prif Weinidog blaenorol, os ydw i'n berffaith onest—wedi cymryd diddordeb yn y diwydiant dur yng Nghymru; nid ydynt wedi rhoi sylw i'r mater o brisiau ynni yn briodol; nid ydynt wedi cael unrhyw drafodaethau gyda ni, fel Gweinidogion, ar fater dyfodol y diwydiant dur, neu ychydig iawn, ers i'r Prif Weinidog newydd ddechrau yn y swydd, ac rwy’n gresynu hynny. Nodais yn ofalus yr hyn a ddywedodd Theresa May ddoe am ymyrryd yn y farchnad, ond nid ydym wedi gweld unrhyw dystiolaeth o hynny o ran cymorth i ddiwydiant dur Cymru.