<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 10 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 1:44, 10 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n credu bod gennym ni Lywodraeth y DU gefnogol iawn, Brif Weinidog, pan ddaw i’r mater hwn, a byddai gennyf ddiddordeb mewn cael gwybod sawl cais a wnaed i Stryd Downing am gyfarfod ar y mater dur penodol. A ydych chi'n cytuno â Stephen Kinnock, ac yn aml iawn— [Torri ar draws.] Gallaf glywed y Dirprwy Weinidog yn grwgnach ar ei eistedd, ond efallai yr hoffai wrando ar y cwestiwn yn gyntaf, ac yna efallai y byddwn yn cael ateb a fyddai'n hysbysu ei etholwyr yn ogystal â phobl eraill yng Nghymru. Ydych chi’n cytuno—?