Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 10 Ionawr 2017.
Ie, rwy’n credu. Mae'r argymhellion yn cyd-fynd yn agos â'n cyfeiriad strategol. O'r 19 o argymhellion, roeddem yn gallu derbyn 12 ohonynt yn llawn a saith mewn egwyddor. O ran sut y mae hyn yn cael ei ddatblygu, rydym ni wedi gweld llwyddiant, er enghraifft, fferm wynt dan berchnogaeth leol Awel Aman Tawe, a'r prawf ynni lleol ym Methesda, a gafodd ei ddangos ar y rhaglen 'Money Box' y penwythnos hwn. Dim ond rhai enghreifftiau yw’r rheini. Cynhaliwyd digwyddiad gennym ddydd Gwener diwethaf gyda'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, neu BEIS fel y maen nhw’n galw eu hunain erbyn hyn, ac Ofgem, gan sicrhau bod lleisiau o Gymru yn cael eu clywed ar ymgynghoriad mawr ar system ynni craff a hyblyg.