Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 10 Ionawr 2017.
Brif Weinidog, rwyf innau hefyd yn cymeradwyo'r adroddiad ardderchog hwn. Credaf ei bod yn bwysig iawn bod pwyllgorau’n gweithio'n galed ac yn myfyrio ar waith pwyllgorau blaenorol. Gwn y bydd y pwyllgor olynol yn dychwelyd at hyn. Ond uchelgais yw hwn, a’r uchelgais hwnnw yr ydym ni eisiau iddo gael ei adlewyrchu, rwy’n credu, yn rhaglen y Llywodraeth. Ceir cyfle gwirioneddol yma, wyddoch chi. Adeiladwyd economi Cymru ar un ffynhonnell ynni fwy neu lai, ac fe wnaethom ni ddioddef oherwydd hynny ar ôl y 1920au a disodliad glo gydag olew. Mae cyfleoedd newydd o’n blaenau, a gallai’r cyfleoedd hynny ein helpu i weddnewid economi Cymru a’i gwneud yn llawer mwy gwyrdd ac yn fwy cydnerth ac wedi’i rheoli’n lleol.