<p>‘Dyfodol Ynni Craffach i Gymru’</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 10 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:00, 10 Ionawr 2017

A gaf i argymell i Aelodau’r Cynulliad, os ydyn nhw eisiau cael cip ar y dyfodol sy’n cael ei ragweld yn adroddiad y pwyllgor, eu bod nhw’n ymweld â Pentre Solar yng Nglan-rhyd, yn sir Benfro, lle mae tai cymdeithasol newydd gael eu hagor gan yr Ysgrifennydd Cabinet, a finnau’n bresennol, y dydd Iau diwethaf? Dyna’r fath o beth mae’n bosib i’w wneud nawr yng Nghymru, a dylem ni weld llawer mwy o hynny yn cael ei ddatblygu.

Ond, yn benodol, mae’r argymhelliad gan y pwyllgor ynglŷn ag ynni yn argymell sefydlu cwmni ynni nid er elw ar gyfer Cymru i gyd i fod yn ymbarél dros ddatblygiadau, fel y rhai rŷch chi newydd eu hargymell—Ynni Ogwen, datblygiadau gan lefydd fel Talgarth, Glan-rhyd hefyd—i ddod â phobl at ei gilydd ac er mwyn cael y fargen orau i’r cwsmer yn ogystal â’r amgylchedd a’r Llywodraeth. Pa gamau yr ydych chi’n eu cymryd i wneud y fath yna o ddatblygiad?