Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 10 Ionawr 2017.
Wel, mae’r gwynt yno. Bydd y llanw bob amser yno cyn belled ag y bo’r lleuad yn yr awyr. Mae'r rhain yn adnoddau gwirioneddol adnewyddadwy a all, o’u harneisio’n gywir, sbarduno ein defnydd o ynni ac, yn wir, allforion ynni, ad infinitum, o bosibl. Mae'r rhain yn faterion y mae angen i ni symud ymlaen â nhw. Bydd gennym ni wrth gwrs, ym Mil Cymru, fwy o bwerau dros gydsynio ynni. Ond, wrth gwrs, Llywodraeth y DU sy’n dal i fod yn gyfrifol am yr agwedd ariannol ar ddatblygiad ynni. Edrychwn ymlaen, wrth gwrs, at yr hyn y bydd adolygiad Henry yn ei ddweud o ran y môr-lynnoedd llanw, a byddwn yn ceisio gweithio gyda Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau bod gennym ni ynni adnewyddadwy sydd â chost refeniw isel iawn o ran cynhyrchu ac a fydd yno yn ystod y dyfodol rhagweladwy.