Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 10 Ionawr 2017.
Edrychwyd ar hyn yn y gorffennol o ran pa un a oes angen brand ar gyfer cynnyrch o Gymru, neu a fyddai’n well cael adnabyddiaeth brand gref ar gyfer cynhyrchion unigol, ac mae cig oen Cymru yn un o'r cynhyrchion hynny. Y dyddiau hyn, mae’r rhan fwyaf o gynhyrchwyr bwyd, er enghraifft, yn labelu eu cynnyrch fel cynnyrch o Gymru. Ystyrir bod hynny’n fantais fawr iddyn nhw; maen hynny’n llai gwir i rai, ond yn sicr mae'n llawer mwy cyffredin nag yr oedd 15, 16 mlynedd yn ôl, ac mae pobl yn llawer mwy tebygol o brynu cynnyrch o Gymru erbyn hyn. Rwy’n cofio, ar adeg argyfwng clwy'r traed a'r genau, nad oedd un o'r archfarchnadoedd mawr yn labelu unrhyw beth i ddweud ei fod yn dod o Gymru bryd hynny. Roedd popeth yn gyffredinol ym mhob un siop. Mae hynny wedi newid ers amser maith, ac mae pethau'n well o'r herwydd.
Mae'r farchnad ddomestig yng Nghymru yn bwysig, ond marchnad fechan yw hi, a dyna pam, wrth gwrs, yr ydym ni’n parhau i wneud yn siŵr bod gennym ni bwyslais ar allforion, a chael cynnyrch â brand Cymreig i farchnadoedd tramor. Pan edrychwn ni ar fwyd o Gymru, yr un peth y mae'n rhaid i ni ei osgoi yw'r sefyllfa yn Norwy, lle ceir tariff ar fwyd. Roedden nhw’n dweud wrthyf fod y tariffau mor fanwl fel bod un tariff ar gyfer eog mwg a thariff arall ar gyfer eog ffres, sy'n rhoi syniad i chi—bydd ef yn gwybod hyn beth bynnag—o ba mor gymhleth yw trafodaethau masnachu mewn gwirionedd. Ond, o ran Norwy, mae ganddyn nhw dariffau a orfodir ar eu cynnyrch amaethyddol sy’n mynd i'r farchnad Ewropeaidd. Y peth olaf un sydd ei angen arnom ni yw gweld yr un peth yn digwydd i Gymru.