Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 10 Ionawr 2017.
Roeddwn i’n falch o glywed y Prif Weinidog, yn ei ymateb, yn cyfeirio at swyddogaeth cyrff cyhoeddus Cymru o ran cefnogi nid yn unig cynhyrchwyr a chyflenwyr Cymru, ond hefyd bod ganddyn nhw swyddogaeth o ran cefnogi eu heconomïau lleol yn rhagweithiol. Byddai’n gwneud cryn wahaniaeth pe byddai pob corff cyhoeddus yng Nghymru, neu, yn wir, pob corff yng Nghymru sy'n derbyn cyllid cyhoeddus Cymru, yn gweithredu’n fwriadol, yn rhagweithiol ac yn gydweithredol â'i gilydd i gefnogi eu heconomïau lleol, ac yn cynnwys meithrin datblygiad cyflenwyr lleol a chadwyni cyflenwi lleol. Pa gamau all Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau hynny?