– Senedd Cymru am 6:40 pm ar 10 Ionawr 2017.
Symudwn yn awr at y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, byddwn yn symud ymlaen i bleidleisio ar y mater nad yw wedi ei benderfynu.
Felly, rydym yn awr yn pleidleisio ar y cynnig, sef datganiad terfynol cyllideb 2017-18, a galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig, 27, wyth yn ymatal, 17 yn erbyn, felly caiff y cynnig ei dderbyn.
Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch yn fawr iawn.