– Senedd Cymru am 6:39 pm ar 10 Ionawr 2017.
Symudwn ymlaen at ddadl olaf y prynhawn, sef y ddadl ar y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru), a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig hwnnw.
Cynnig NDM6194 Jane Hutt
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69 sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Yn ffurfiol, Gadeirydd.
Diolch. Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr, felly, a gan ei fod wedi ei gynnig yn ffurfiol, y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, caiff y cynnig ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.