Part of the debate – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 10 Ionawr 2017.
Rydych yn llygad eich lle, Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf yn meddwl bod yn rhaid i ni fod yn ofalus iawn yn yr eirfa yr ydym i gyd yn ei defnyddio. Rwy'n credu mai un o'r meysydd cyntaf y bydd yn rhaid i ni fod yn glir iawn yn ei gylch yw bod yr hawl gan bob un ohonom i herio—eich herio chi, herio Llywodraeth Cymru—ynghylch perfformiad y gwasanaeth iechyd. A thrwy wneud hyn, nid yw mewn unrhyw ffordd yn bychanu gwaith caled y bobl sydd yn y gwasanaeth iechyd. Pa un a yw’n ymgynghorydd o’r radd uchaf neu’n borthor sy'n hebrwng y claf o'r ambiwlans ac i mewn drwy'r system, maen nhw i gyd yn chwarae rhan werthfawr, ac mae angen inni oresgyn y broblem hon o 'Ni allwn drafod y peth, rhag inni ddilorni unrhyw un ', oherwydd nid oes yr un ohonom am ddilorni unrhyw un. Ac mae geirfa yn bwysig iawn, oherwydd roedd cadeirydd y Groes Goch yn gwbl, gwbl anghywir yn y sylwadau a wnaeth am argyfyngau dyngarol. Roedd hynny'n ddefnydd gwarthus o eirfa. A phan fyddwch yn edrych ar y dystiolaeth sydd yn bodoli, mae'n bennaf o achos dwy ymddiriedolaeth GIG. Mae gennym ni saith, ac mae’r saith yn ymateb mewn ffyrdd amrywiol i bwysau’r gaeaf.
Yn awr, wrth gwrs, gwnaeth y Coleg Brenhinol Meddygaeth Brys rai argymhellion clir iawn pan ddaethon nhw gerbron y pwyllgor iechyd. A gwn eich bod chi a'ch swyddogion wedi edrych ar y trawsgrifiad, gan edrych ar yr hyn yr oedd pobl yn ei ddweud, ac rydych wedi cael nifer o sgyrsiau gyda'r holl golegau brenhinol hyn. Felly, hoffwn i ofyn un neu ddau o gwestiynau i chi: a gawsoch chi gyfle i glustnodi neu i sicrhau bod awdurdodau iechyd sydd wedi neilltuo unrhyw welyau ar gyfer gofal heb ei drefnu er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth yno, fel nad oedd llawdriniaeth ddewisol yn dioddef? A oeddech yn alluog i weithredu unrhyw ganolfannau asesu’r oedrannus a’r bregus yn unrhyw un o'r prif ysbytai er mwyn rhoi blaenoriaeth i’r bobl fwyaf agored i niwed yn yr un modd ag yr ydym yn blaenoriaethu mewn pediatreg? A ydych yn hyderus fod gwasanaethau ailgyfeirio wedi llwyddo yn eu gwaith? Ac wrth gwrs, yr hyn sy’n achosi’r chwalfa yn yr adrannau damweiniau ac achosion brys a'r hyn sydd wedi achosi’r sylwebaeth gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys, fel y deallaf, a oedd yn gwbl gywir wrth dynnu sylw at yr hyn a wnaethon nhw a sut maen nhw’n gweld pethau, yw cau gwelyau. Tybed, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi ddweud a oes cynnydd wedi bod o gwbl mewn gwelyau cymunedol ac mewn gofal eilaidd, gan y byddai cymryd y tri neu bedwar cam hyn, mewn gwirionedd, yn helpu i leddfu'r pwysau sydd ar adrannau damweiniau ac achosion brys. Y nhw, wrth gwrs, yw drws ffrynt pob un o'n gwasanaethau aciwt.