Part of the debate – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 10 Ionawr 2017.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad? Rwy'n hynod, hynod o falch ein bod wedi cyrraedd y pwynt hwn heddiw ac, fel eraill, rwy’n croesawu'n fawr yr ymrwymiad yr ydych chi wedi’i wneud i sicrhau bod nid yn unig y teuluoedd y mae dementia yn effeithio arnynt, ond y bobl sy'n byw gyda’r cyflwr hefyd yn cael dweud eu dweud yn llawn drwy'r ymgynghoriad hwn. Rwy'n credu mai’r rheini yw’r lleisiau pwysicaf oll: llawer pwysicach na’n lleisiau ni, er ei bod yn bwysig ein bod ni’n dweud ein dweud. Rwy'n credu bod llawer iawn i'w groesawu yn y strategaeth ddrafft hon. Rwy'n credu ei bod yn cynnwys yr holl brif feysydd y byddwn yn meddwl y dylid eu cynnwys.
Hoffwn sôn am un neu ddau o bwyntiau penodol. Y cyntaf yw cyfraddau diagnosis. Nid wyf yn credu bod 3 y cant y flwyddyn yn ddigon uchelgeisiol. Fel yr wyf wedi ei ddweud o'r blaen, ni fyddem yn derbyn cyfradd diagnosis o 50 y cant ar gyfer cyflwr fel canser ac ni ddylem ei dderbyn ar gyfer rhywbeth fel dementia. Rwy’n gobeithio, wrth inni fynd drwy'r ymgynghoriad, y bydd yn bosibl cyflwyno targed mwy uchelgeisiol ar gyfer y gyfradd diagnosis.
Wrth gwrs, nid yw targedau diagnosis o werth oni bai bod gennych y gwasanaethau cymorth eu hunain ar waith ar gyfer pobl ar ôl iddynt gael y diagnosis, ac rwy'n falch bod y strategaeth yn cydnabod hynny. Yn wir, rydych yn cydnabod y ffaith nad yw triniaethau ffarmacolegol, ac yn y blaen, sy'n gallu arafu cynnydd dementia, ar gael i bobl tan ar ôl i chi gael y diagnosis. Rwy’n credu bod hynny’n bwysig iawn. Ond ceir diffyg manylder o hyd ar y mater hwn o weithwyr cymorth: 32 ar hyn o bryd; mae'n amlwg na fydd hynny’n ddigon i Gymru gyfan, yn enwedig os byddwn yn cynyddu cyfraddau diagnosis. Felly, rwy’n gobeithio y gallwn, drwy'r ymgynghoriad, geisio gwella ar hynny.
Ac yna, yn olaf, ynglŷn â gweithredu, rwy'n falch iawn eich bod wedi bod yn benodol ynghylch y dulliau ar gyfer monitro’r strategaeth o ran y grŵp a gaiff ei sefydlu. Rwy’n gobeithio y byddwn yn gallu cael gwybod mwy am sut yn union y bydd hynny'n gweithio ac, yn arbennig, dulliau’r grŵp hwnnw ar gyfer adrodd i'r Llywodraeth.
Roeddwn i hefyd yn awyddus i dynnu sylw at y ffaith fy mod i’n falch o weld y targedau perfformiad lefel uchel yng nghefn y ddogfen, ond rwy’n credu bod angen mwy o fanylion yn y fan honno hefyd. Hoffwn ofyn ichi ai eich bwriad, drwy'r ymgynghoriad hwn, yw cynnwys rhai cerrig milltir gwirioneddol, o ran niferoedd gwirioneddol, yn yr adran honno fel y gallwn fonitro yn gwbl glir, wrth inni fynd drwy hyn, sut yr ydym yn cyflawni mewn gwirionedd yn erbyn ein hamcanion.
Yn olaf, roeddwn yn awyddus i ddweud, rydym wedi cael y drafodaeth hon ynghylch pa un a ddylech fod yn rhy uchelgeisiol ynteu a ddylech chi fod yn realistig: rwy’n credu y dylem ni fod yn anelu’n uchel iawn gyda'r ddogfen hon. Bydd unrhyw un sydd wedi cael unrhyw gysylltiad uniongyrchol â dementia yn dweud wrthych ei fod yn brofiad sy'n gweddnewid pethau. Rydym yn gwybod bod nifer y bobl sy'n mynd i gael dementia yn ei wneud yn brofiad sy'n gweddnewid pethau i’n gwasanaethau cyhoeddus ac rwy’n meddwl y dylem geisio llunio strategaeth sy’n gweddnewid pethau.