5. 4. Datganiad: Ffliw Adar

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:07 pm ar 10 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 4:07, 10 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi unwaith eto, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich ail ddatganiad ynglŷn â hyn. Rwy’n credu bod hynny yn profi i ni fel Aelodau pa mor o ddifrif yr ydych chi’n ystyried hyn, mewn gwirionedd. Yn amlwg, roedd yn siom fawr pan ddaethpwyd o hyd i gorhwyad wedi marw yng ngwarchodfa RSPB Conwy. Mae'n rhaid i mi ddweud wrthych chi, ar Twitter neithiwr, bod rheolwr y warchodfa, Julian, yn pryderu y bydd hyn yn achosi pobl i beidio ag ymweld. Felly, mae'n ymwneud â sut yr ydym ni’n lledaenu’r neges gadarnhaol honno o leiaf bod hyn wedi'i nodi, a’i fod yn rhan o’ch bioddiogelwch. Ar fy ffrwd Twitter, cyhoeddais eich bod chi’n gwneud datganiad heddiw, a byddan nhw’n cadw llygad am hynny. Felly, unrhyw beth y gallwch chi ei wneud, gan weithio gydag awdurdodau lleol, er mwyn tynnu sylw at y ffaith ei bod yn dal i fod yn ddiogel i ymwelwyr fynd yno.

Gan symud ymlaen, fe wnaethoch chi sôn am y tyddyn yn Sir Gaerfyrddin, a dim ond llond llaw o adar oedd hynny, mewn gwirionedd. Rwyf eisiau gofyn, ynglŷn â’r enghraifft benodol honno, a oedden nhw wedi eisoes wedi cofrestru’r ffaith eu bod nhw’n cadw dofednod, neu a oedden nhw mewn gwirionedd ar unrhyw gofrestr. Y rheswm pam rwy’n gofyn hyn: rwy’n adnabod eithaf tipyn o bobl sy'n cadw dofednod mewn gwirionedd— niferoedd isel, ond nid ydyn nhw’n gweld yr angen. Maen nhw’n tueddu i ddychmygu mai dim ond y ffermydd dofednod mwy, a'r rhai sy'n cadw anifeiliaid maes sydd angen cofrestru. Roeddwn i’n meddwl tybed a ydych chi’n gweithio gydag awdurdodau lleol fel y gallan nhw efallai, ar lawr gwlad, fod yn fwy ymwybodol.

Hefyd, yn sicr yn fy ardal i yn y gogledd, ceir nifer o hobiwyr ac atyniadau ymwelwyr sy’n cadw tai adar trofannol, adar ysglyfaethus ac wrth gwrs dofednod domestig, ac mae'n anodd iawn gosod rhwyll er mwyn bwydo adar a phopeth arall, o ran y mathau hynny o adar, heb i adar gwyllt ddod i ymweld ac, mewn gwirionedd, cael cysylltiad agos iawn. Mae'n ymwneud â sut y gallwch chi mewn gwirionedd wneud pobl yn ymwybodol iawn o'r peryglon sydd ynghlwm wrth ffliw adar a'r angen i holl berchnogion dofednod yn yr awyr agored gamu ymlaen, ymuno â'r gofrestr a’u cadw dan do. Efallai y gallai eich adran chi ddefnyddio mwy ar y cyfryngau cymdeithasol ac yna gallwn ni, fel Aelodau, gadw llygad am y neges a’i thrydaru, oherwydd rwy’n credu ei bod hi’n neges y mae angen i ni ei lledaenu.

Yn amlwg mae cymaint o gyfrifoldeb ar y perchnogion adar hyn ag sydd ar ffermwyr dofednod ar raddfa fawr, a allai fod yn ei chael hi’n anodd, fel y nodwyd gennych yn hollol gywir, cadw at ofynion y parth atal. Sut y gallwch chi sicrhau eu bod hwythau hefyd yn cymryd y rhagofalon angenrheidiol o ran glanweithdra, diheintio a chofrestru? Mae’r straen H5N8 yn un pathogenig iawn ac o ystyried ei botensial i ledaenu, trawsheintio neu newid, ac mae'n amlwg na allwn ni fforddio peidio â sylweddoli y ceir peryglon posibl. Sut yr ydych chi’n ceisio atal unrhyw trawsheintio pan fo cyswllt rhwng pobl ac adar heintiedig yn anochel, oherwydd yn amlwg mae pobl yn eu bwydo nhw heb sylweddoli hynny ar y pryd? Rwyf wedi gwneud cryn dipyn o waith ar hyn o'r blaen, ac rwyf mewn gwirionedd yn berchen ar aderyn fy hun a gwn os byddaf mewn gwirionedd yn dal y ffliw, mae'n dibynnu pa ffliw ydyw, ond mae’n rhaid i chi fod yn ofalus iawn, oherwydd gallwch chi drawsheintio.

Yn olaf, rydych chi’n nodi y gall lefel y risg o ffliw adar gynyddu dros yr wythnosau nesaf. Mae Sefydliad Iechyd Anifeiliad y Byd yn awgrymu brechu pe byddai’r sefyllfa hon yn dod yn fwy o broblem. Roeddwn i’n meddwl tybed, o ran adnoddau, sut y byddwch chi’n gallu ystyried hynny, os—ac rwyf ond yn dweud 'os' oherwydd yn amlwg mae yna gost ynghlwm â hynny. Ond yn fwy felly, beth am y ffaith, yn ein hawdurdodau lleol ar draws Cymru, fod llawer o'n hadrannau rheoleiddio a diogelu'r cyhoedd wedi colli cyllideb ac wedi colli llawer o'u swyddogion pwysig? Sut yn eich barn chi, o ystyried bod hon yn sefyllfa a allai—? Gwyddom ei fod ar gynnydd. Beth yw eich barn chi ynglŷn â’ch sefyllfa chi—eich adran, ac mewn gwirionedd eich adrannau awdurdodau lleol i allu ymdrin mewn gwirionedd â hyn o ran sut y gall pob un ohonom fod â hyder llawn?