5. 4. Datganiad: Ffliw Adar

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:11 pm ar 10 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 4:11, 10 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Gair ynglŷn â chwestiynau’r Aelod yn ymwneud â brechu, ni cheir yr un brechlyn mewn gwirionedd yn erbyn H5N8 sydd wedi’i awdurdodi i'w ddefnyddio yn y DU ar hyn o bryd. Felly, rwy'n credu bod hynny'n bwynt pwysig iawn i’w nodi. Fe wnes i sôn, mewn ateb blaenorol, am awdurdodau lleol, ac yn sicr yn Sir Gaerfyrddin, dywedodd fy swyddogion yn arbennig pa mor gyflym y buont yn ymdrin â'r digwyddiad yn Sir Gaerfyrddin ac yn sicr nid oedd unrhyw bryderon ynghylch gallu na chapasiti. Rwy'n credu bod y pwynt a godwyd gennych am y gorhwyad farw y daethpwyd o hyd iddi yng Nghonwy—. Rwy'n credu ei bod hi’r un mor bwysig lledaenu’r neges honno ynglŷn â thwristiaeth ac iechyd y cyhoedd ar yr un pryd—ei bod hi’n ddiogel iawn i ymweld a’i bod hi’n ddiogel i fwyta dofednod ac wyau.

Eto, rwy’n credu fy mod i wedi ateb y cwestiynau ynghylch sut yr ydym yn hysbysu’r bobl sydd â llai na 50 o adar, am yr wybodaeth hon. Y ffordd orau yw rhoi eich hun ar y gofrestr ddofednod fel eich bod chi’n cael diweddariadau yn rheolaidd. Rwy'n falch iawn o glywed gan Janet ei bod hi’n defnyddio ei ffrwd cyfryngau cymdeithasol. Rwy’n credu bod fy adran i wedi bod yn dda iawn, iawn. Yn sicr, dros gyfnod y Nadolig, rydym wedi llwyddo i drydaru llawer iawn o’r wybodaeth y buom yn ei lledaenu, gan fod hyn bod wedi esblygu mor gyflym ers i mi wneud y penderfyniad cyntaf ynglŷn â’r parth atal ar 6 Rhagfyr.

Bioddiogelwch—mae pobl yn ymwybodol o fioddiogelwch. Nid yw’n bosibl i mi, na fy swyddogion, ymweld â phob fferm ac ymweld â phawb sy’n cadw dofednod. Felly, eto, mae’n ymwneud â sicrhau ein bod ni’n lledaenu’r neges honno’n barhaus, oherwydd, weithiau, pan fo pethau’n tawelu, efallai na fyddai pobl yn ystyried bod risg i’w gael.yn bodoli. Felly mae'n bwysig iawn, dros y saith neu wyth wythnos nesaf, a thra bo’r parth hwnnw ar waith hyd at 28 Chwefror, ein bod ni’n parhau i fanteisio ar bob cyfle i ledaenu’r neges.