6. 5. Datganiad: Y Gronfa Triniaethau Newydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:36 pm ar 10 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:36, 10 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am eich sylwadau a'ch cwestiynau, ac am groesawu cyflawniad y rhan hon o'r rhaglen lywodraethu. Rwy'n hapus i ailgadarnhau y pwynt am y broses werthuso ar gyfer mathau newydd eraill o dechnoleg. Mae'r gronfa triniaethau newydd yr ydym yn sôn amdani ar gyfer cyflwyno meddyginiaethau newydd ac wedi eu cymeradwyo. O ran eich pwynt ynglŷn â sganio'r gorwel am feddyginiaethau newydd; mae hynny’n rhan o’r hyn yr ydym ni’n ei wneud yn well yng Nghymru erbyn hyn oherwydd ein bod ni wedi newid natur ein perthynas â'r diwydiant. Mae’r aeddfedrwydd hwnnw yn wirioneddol bwysig i ni, i sicrhau bod gwerthoedd ein gwasanaethau cyhoeddus yn ddiogel, a bod y gwerth a gawn am y meddyginiaethau newydd i’r gwasanaeth iechyd ac i gleifion yn parhau i fod ein blaenoriaeth gyntaf—ond yn yr un modd, i ddeall sut yr ydym yn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i sicrhau bod hynny’n wir, ac i sicrhau, os oes buddion eraill y gellir eu cyflawni o ran y gallu i ddatblygu potensial diwydiannol y diwydiant hwn yng Nghymru, ein bod yn eu cyflawni nhw hefyd.

Ond, mewn gwirionedd, rydym yn cydnabod, wrth fod gan y diwydiant berthynas wahanol, ei bod mewn gwirionedd o fudd iddyn nhw i gael y sgwrs aeddfed hon â ni. Os ydyn nhw’n dymuno i’w meddyginiaethau newydd fod ar gael, i gael eu gwerthuso’n briodol fel y gallan nhw ddeall yr hyn y byddan nhw’n ei wneud mewn cynllun mynediad i gleifion os oes angen hynny, i ddeall yr holl gyngor a gwybodaeth sydd eu hangen i allu cynnal y gwerthusiad yn gyflym ac yn effeithiol ac yna ei gyflwyno, y mae er budd iddyn nhw gael y drafodaeth honno am yr hyn sydd ar y gorwel yn y dyfodol. Rwy'n wirioneddol optimistaidd ynglŷn â hynny—nid yn syml oherwydd fy mod yn berson naturiol optimistaidd, ond mewn gwirionedd oherwydd y sgyrsiau yr ydym wedi eu cael â’r diwydiant. Rwy’n croesawu ac yn cydnabod yn arbennig y sylwadau cefnogol a wnaed heddiw gan Gymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain ynglŷn â chyflwyno’r gronfa.

O ran y pwynt am feddyginiaethau newydd—ac eto, o ran y pwynt nad yw hyn yn ymwneud â dewis dim ond canser fel yr unig gyfres o gyflyrau yr ydym yn barod i wario arian ychwanegol arni yn y ffordd hon—wrth lansio’r gronfa triniaethau newydd es i, fel y mae’n digwydd, i'r clinig feirysau a gludir yn y gwaed yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae'n wasanaeth i Gymru gyfan ac mae'n gwneud gwaith anhygoel i bobl ym mhob cwr o’r wlad. Yr hyn sydd wedi newid mewn gwirionedd yw’r ffaith, yn ogystal â rhoi mynediad i feddyginiaethau newydd yr ydym wedi eu cyflwyno gydag arian newydd—mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i aelodau staff a'r ffordd maen nhw’n rhwydweithio ac yn gweithio ledled Cymru—mae wedi cyflwyno ymdeimlad gwirioneddol o bwrpas clinigol yn yr hyn y maen nhw’n ei ddweud am y ffordd maen nhw’n dymuno cyflawni hyn yn wirioneddol i Gymru gyfan. Felly, mewn gwirionedd, mae'r arian newydd a'r meddyginiaethau newydd wedi bod yn rhan o’r cymorth i gyflawni cynnydd gwirioneddol mewn ymddygiad, triniaeth a chanlyniadau clinigol i gleifion. Oherwydd hynny, i mi, oedd yr elfen fwyaf ysbrydoledig o’r ymweliad—cael cwrdd â chleifion sydd wedi cael gwellhad gwirioneddol yn awr yn sgil y feddyginiaeth newydd sydd wedi ei chyflwyno drwy’r buddsoddiad penodol a wnaed. Dyna beth yr wyf i’n dymuno gweld mwy ohono yn awr ac yn y dyfodol. Felly, mae’n newyddion da i’r gwasanaeth iechyd, ond mae’n newyddion hyd yn oed yn well i’r cleifion y mae'r gwasanaeth iechyd yn eu gwasanaethu.