6. 5. Datganiad: Y Gronfa Triniaethau Newydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:33 pm ar 10 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 4:33, 10 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, ac am eich llythyr yn gynharach heddiw. Mae’r newyddion y gall cleifion bellach elwa ar y gronfa triniaethau newydd i’w groesawu, a bydd yn rhyddhad mawr i lawer o gleifion yng Nghymru, y mae rhai ohonyn nhw wedi mynd i Loegr am driniaeth o’r blaen.

Pan drafodir mynediad at feddyginiaethau, mae’n ymwneud fel arfer â chyffuriau canser yn unig, felly mae'n braf gweld bod meddyginiaethau newydd ar gael erbyn hyn i drin cyflyrau fel ffeibrosis cystig, asthma difrifol a hepatitis C, yn ogystal â thriniaethau ar gyfer canser yr ysgyfaint, y fron a’r arennau. Yn ogystal â chroesawu cyflwyniad y gronfa, Ysgrifennydd y Cabinet, mae gen i ychydig o gwestiynau i chi, gan ein bod wedi trafod y cynllun hwn yn helaeth y llynedd. Ysgrifennydd y Cabinet, yn eich llythyr, rydych yn nodi bod 60 o feddyginiaethau newydd wedi eu cymeradwyo ers mis Ebrill. A ydych yn gweithio gyda'r sector fferyllol i sicrhau ein bod yn sganio'r gorwel yn ddigonol, i fod wedi ein paratoi yn briodol i ymdrin â gwerthusiadau meddyginiaeth newydd yn y dyfodol?

Mae eich datganiad a'ch llythyr yn sôn am gyflwyno meddyginiaethau newydd, ond nid oes llawer o sôn am driniaethau newydd. A wnewch chi gadarnhau y bydd y gronfa hefyd yn caniatáu i gleifion gael gafael ar driniaethau newydd arloesol, megis mathau newydd o radiotherapi ac unrhyw driniaeth newydd sy'n dangos budd clinigol clir i gleifion?

Rwy’n falch o weld y byddwch yn annog perthynas waith agosach rhwng y GIG a'r diwydiant fferyllol. Mae'n rhaid i ni weithio'n llawer mwy cydweithredol gyda'r diwydiant fferyllol yn y dyfodol os ydym am sicrhau gwelliannau i ofal cleifion.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r gronfa triniaethau newydd wedi ei chlustnodi’n glir i ddarparu triniaethau gwell i gleifion, felly a fyddwch yn dyrannu rhagor o adnoddau i wella'r cydweithio hwn yn y dyfodol? Mae angen gwelliannau i seilwaith y GIG os ydym am barhau i ddarparu’r triniaethau gorau sydd ar gael i gleifion yng Nghymru.

Diolch i chi unwaith eto am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Edrychaf ymlaen at gael manylion am sut y mae'r cynllun yn gweithio yn ymarferol pan fyddwch yn adrodd ar gynnydd yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Diolch yn fawr.