– Senedd Cymru am 4:13 pm ar 10 Ionawr 2017.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar y gronfa triniaethau newydd. Rwy’n galw ar Vaughan Gething.
Diolch i chi, unwaith eto, Lywydd. Mae’n bleser gennyf gyhoeddi bod y gronfa triniaethau newydd wedi'i sefydlu erbyn hyn ac y byddaf yn rhyddhau, ar unwaith, £12 miliwn ar gyfer y gyfran gyntaf o gyllid ar gyfer eleni. Roedd y gronfa triniaethau newydd yn ymrwymiad allweddol y gwnaethom ei gyflwyno i bobl Cymru ym mis Mai 2016 ac rydym yn cyflawni ar yr ymrwymiad hwnnw. Ein hymrwymiad oedd buddsoddi £80 miliwn yn ystod oes y Llywodraeth hon mewn cronfa triniaethau newydd. Rydym yn cyflawni, gyda'r gronfa newydd yn darparu swm ychwanegol o £16 miliwn bob blwyddyn, am bum mlynedd, i gyflymu mynediad at feddyginiaethau newydd yng Nghymru.
Bydd y gronfa'n cefnogi byrddau iechyd i sicrhau bod yr holl feddyginiaethau newydd a argymhellwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal a Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru ar gael yn gyflymach ac yn fwy cyson ledled Cymru. Ysgrifennais at Aelodau'r Cynulliad y bore ’ma, gan ddarparu manylion am sut y bydd y gronfa triniaethau newydd yn gweithredu. Bydd y gronfa newydd o fudd i gleifion yng Nghymru mewn tri maes allweddol. Bydd yr holl feddyginiaethau newydd a argymhellir ar gael o fewn dau fis i gyhoeddi’r argymhelliad, yn hytrach na'r tri mis presennol. Bydd meddyginiaethau a argymhellir gan NICE ar gael o fewn dau fis i gyhoeddi’r penderfyniad gwerthuso terfynol am y tro cyntaf, yn hytrach nag aros am y canllawiau terfynol ar werthuso technoleg, a gaiff eu cyhoeddi ar ôl y cyfnod apelio, a all fod hyd at wyth wythnos yn ddiweddarach. A bydd meddyginiaethau canser newydd a gaiff argymhelliad interim gan NICE hefyd ar gael i gleifion yng Nghymru o fewn yr un terfynau amser.
Mae'r gronfa triniaethau newydd wedi ei chynllunio i drin pob cyflwr yn gyfartal. Rydym yn cydnabod y bydd pob unigolyn a gaiff ei effeithio gan gyflwr sy’n cael effaith ar ei fywyd eisiau sicrwydd bod gan Lywodraeth Cymru yr un diddordeb yn ei sefyllfa, ni waeth ble mae’n byw yng Nghymru, trwy wneud yn siŵr y caiff yr holl feddyginaiethau newydd a argymhellir eu cyflwyno cyn gynted â phosibl ac yn gyson, ac nid yw honno’n ymagwedd a fabwysiadwyd yn rhannau eraill o'r DU. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi darparu £200 miliwn yn ychwanegol i GIG Cymru yng nghyllideb 2016-17 i ariannu effaith barhaus y galw am wasanaethau iechyd a’r cynnydd mewn taliadau a chostau eraill, fel y nodwyd yn adroddiad y Sefydliad Iechyd yn ddiweddar, 'Y llwybr i gynaliadwyedd'. Mae'r cyllid ychwanegol hwn o £80 miliwn yn ystod oes y Llywodraeth hon ar gyfer y gronfa triniaethau newydd yn fuddsoddiad sylweddol pellach a fydd yn cyflawni’r cyflwyniad cynnar cyflymach a mwy cyson o feddyginiaethau newydd.
Rydym yn cydnabod bod meddyginiaethau a thriniaethau newydd yn cael eu darganfod, eu datblygu a’u profi o hyd, gan gynnig gobaith o wellhad neu ansawdd bywyd gwell i bobl ag amrywiaeth o afiechydon sy'n peryglu bywydau. Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn helpu i gael gwared ar ansicrwydd ynghylch cyllid ar gyfer triniaethau newydd yn y dyfodol ac yn helpu GIG Cymru i baratoi cynlluniau cynaliadwy ar gyfer cyflwyno meddyginiaethau newydd. Bydd y £12 miliwn sydd ar gael yn awr yn cael ei ddefnyddio i helpu i gefnogi cyflenwi meddyginiaethau newydd ac effeithiol a argymhellwyd ers mis Ebrill y llynedd i Gymru gyfan. Mae hyn yn cynnwys meddyginiaethau newydd i drin canser y prostad a chanser yr ofari, nychdod cyhyrol a methiant y galon. Mae cost flynyddol o ryw £1 miliwn i bob un o'r rhain.
Bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi cyflwyno meddyginiaethau newydd a argymhellwyd yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, yn ogystal â'r rhai sydd yn yr arfaeth gan Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal y mis hwn. Mae hynny'n cynnwys meddyginiaethau newydd i drin canser, psorïasis difrifol, hepatitis C, ffeibrosis systig mewn plant dan chwech oed, asthma difrifol, a chyffur newydd sy'n driniaeth y mae angen mawr amdani ar gyfer clefydau prin yr ysgyfaint sy’n peryglu bywydau. Mae pob un o'r clefydau hyn yn peryglu bywyd a/neu’n wanychol, ac mae'r meddyginiaethau newydd hyn yn mynd i'r afael ag angen clinigol nad yw wedi’i ddiwallu neu’n cynrychioli newid sylweddol mewn triniaeth. Bydd y £12 miliwn yr wyf yn ei ryddhau yn awr i fyrddau iechyd yn helpu i gyflwyno’r holl feddyginiaethau newydd pwysig hyn sydd wedi eu hargymell yn gyflym ac yn gyson.
Bydd y gyfran olaf o £4 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol hon yn cael ei rhyddhau i fyrddau iechyd yn ddiweddarach y mis hwn i gefnogi cyflwyniad cyflym y meddyginiaethau hyn ac i alluogi byrddau iechyd i gynllunio'n fwy effeithiol ar gyfer cyflwyno meddyginiaethau newydd sydd i’w gwerthuso rhwng nawr a diwedd mis Mawrth 2017.
Yn ystod 2017, byddwn yn gwella'r rhagolwg gwerthuso meddyginiaethau i hwyluso'r broses o ryddhau cyllid ymlaen llaw yn rheolaidd drwy gydol pob blwyddyn o'r gronfa ac i gefnogi proses gynllunio gynnar i gyflwyno'r meddyginiaethau newydd. Byddaf yn cyhoeddi cyfarwyddiadau newydd i fyrddau iechyd cyn diwedd y mis i glustnodi’r gronfa er mwyn cefnogi’r gwaith o gyflwyno meddyginiaethau newydd sydd wedi eu hargymell. Byddwn hefyd yn monitro'r nifer sy'n manteisio ar feddyginiaethau newydd a'r gostyngiad mewn graddfeydd amser, gan fy mod i’n dymuno bod yn glir bod y gronfa yn cael ei defnyddio at ei diben a'i bod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
I gefnogi mynediad at feddyginiaethau yng Nghymru ymhellach, byddaf yn parhau i annog y diwydiant fferyllol i weithio gyda GIG Cymru i gefnogi ein hagenda i sicrhau bod meddyginiaethau newydd a argymhellir ar gael yn gyflym. Mae gan y diwydiant swyddogaeth allweddol wrth gefnogi a gwella ein prosesau blaengynllunio sy'n gysylltiedig â chreu rhagolygon ariannol tymor hirach a chynorthwyo byrddau iechyd i nodi pan fo angen seilwaith a/neu ad-drefnu gwasanaethau i gefnogi cyflwyniad meddyginiaeth newydd, a hynny cyn gynted ag sy’n bosibl. Os yw ein system gofal iechyd am ddarparu dull cynaliadwy, ymatebol o gyflwyno meddyginiaethau newydd sy'n gyflym ac yn gyfrifol, mae angen ymdrech dda ar y cyd gan y diwydiant, GIG Cymru a Llywodraeth Cymru, a chroesawyd y neges hon pan siaradais yng nghynhadledd flynyddol Cymdeithas Brydeinig y Diwydiant Fferyllol ym mis Tachwedd y llynedd.
Addawodd y Llywodraeth hon i gyflwyno cronfa triniaethau newydd i roi mynediad cyflym at driniaethau newydd, arloesol ac effeithiol i bobl Cymru. Rwy’n falch o gadarnhau ein bod yn cyflawni ein hymrwymiad ym mlwyddyn gyntaf y Llywodraeth hon ac yn ‘Symud Cymru Ymlaen’. Byddaf yn adrodd ar y cynnydd o ran gweithredu’r gronfa newydd cyn toriad yr haf.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n croesawu eich datganiad heddiw, ac wrth gwrs mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn falch iawn o weld £12 miliwn yn mynd i'r GIG—mae croeso mawr i unrhyw arian ychwanegol i'r GIG. Fodd bynnag, rwyf i wedi drysu braidd gan yr addewid a wnaethoch i bobl yn eich maniffesto, sef, ac fe’i darllenaf i chi, os caf i:
Byddwn yn cyflwyno Cronfa Triniaethau Newydd arloesol, a fydd yn galluogi'r cyffuriau mwyaf datblygedig a thriniaethau cost uchel ar gyfer canser ac afiechydon eraill sy'n bygwth bywyd i fod ar gael yng Nghymru yn gyntaf.
Nawr, bydd llawer o bobl wedi deall o weld hynny, mewn achosion pan fo cyffuriau wedi eu cymeradwyo o ran eu gallu technegol—maen nhw’n gwneud y gwaith—ond nid ydyn nhw wedi eu cymeradwyo gan NICE oherwydd y dadansoddiad cost a budd, bod pobl wedi ceisio cael gafael ar y cyffuriau hynny. Ac, wrth drafod cronfa triniaethau canser gan Geidwadwyr Cymreig, roeddem yn sôn am roi arian ar gyfer y mathau hynny o gyffuriau, ond mae'n ymddangos i mi bod yr arian hwn yr ydych yn sôn amdano heddiw, y £12 miliwn sy’n arwain at yr £80 miliwn dros bum mlynedd, mewn gwirionedd yn ymwneud â chael byrddau iechyd i ddarparu'r cyffuriau sydd eisoes wedi eu cytuno gan NICE, ac sydd eisoes wedi eu cytuno gan Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru, ychydig yn gyflymach. A dweud y gwir, fe ddylen nhw fod yn gwneud hynny beth bynnag, oherwydd bod gan holl bobl Cymru, holl ddinasyddion Cymru, hawl i gael gafael ar driniaethau sydd wedi eu cytuno a'u cymeradwyo gan y cyrff hynny, ac ni ddylai unrhyw fwrdd iechyd fod yn llusgo’u traed ynglŷn â hynny.
Felly, a wnewch chi egluro i mi os gwelwch yn dda beth fydd yn digwydd gyda’r cyffuriau hynny sydd wedi eu cymeradwyo o ran eu heffeithlonrwydd technegol, ond heb eu cymeradwyo oherwydd y dadansoddiad cost a budd—cyffuriau nad ydynt yn ffitio i mewn i'r system ceisiadau cyllid cleifion annibynnol? Ydy hyn yn golygu y bydd diwedd ar y loteri cod post, lle’r oedd pobl yng Nghymru yn ceisio teithio i Loegr neu wledydd cartref eraill i gael gafael ar gyffuriau a thriniaethau nad oedden nhw ar gael yma? Os yw'n golygu rhoi diwedd ar y loteri cod post honno, fe fyddaf i ar ben fy nigon. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi egluro hynny i ni.
Ystyriais y pwynt a wnaed gan Lywodraeth Cymru mai’r broblem, mewn gwirionedd, gyda chael cronfa triniaethau ar gyfer canser yn unig, er enghraifft, oedd ei bod yn rhy gul, ac rwy’n croesawu’r ffaith bod y gronfa hon ar gyfer pob salwch creulon ac anarferol, ei bod ar gyfer yr holl driniaethau newydd, ac, mewn gwirionedd, a wnewch chi gadarnhau i mi nad yw’n ymwneud dim ond â chyffuriau ond y gall hefyd gynnwys triniaethau technegol—mathau arbenigol iawn o lawdriniaeth, er enghraifft? Oherwydd hoffwn wneud yn siŵr bod y rheini hefyd wedi eu cynnwys—llawdriniaethau nad ydynt yn rhai cyffredin. A wnewch chi egluro i mi beth fyddai'n digwydd pe bai NICE yn cymeradwyo cyffur? A yw’n bosibl cael sefyllfa pan nad yw Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru o’r un farn? A oes gwrthdaro byth? Os oes gwrthdaro, a oes cynnig ar waith ar gyfer datrys y gwrthdaro hwnnw?
A wnewch chi hefyd gadarnhau i mi pa un a fydd yr arian sydd ar gyfer triniaethau newydd hefyd yn cynnwys cymorth ychwanegol o gwmpas y cyffuriau? Nawr, mi wnes i, yn amlwg, ddarllen eich paragraff sy'n dweud i gefnogi mynediad at feddyginiaethau yng Nghymru, byddaf yn parhau i annog y diwydiant fferyllol i weithio gyda byrddau iechyd, ac ati, ond, wrth gwrs, bydd angen cymorth penodol ar gryn dipyn o'r cyffuriau hyn i'w gweithredu. Felly, a fydd yr arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y cyffur yn unig, neu’r cyffur a'r cymorth, neu a fyddech yn disgwyl i'r bwrdd iechyd ad-drefnu eu staff cymorth a’u seilwaith gan ddefnyddio eu harian eu hunain? Rwy'n credu y byddai’n ddefnyddiol cael eglurhad ar hynny, oherwydd er bod £12 miliwn, efallai £16 miliwn, y flwyddyn—£80 miliwn dros bum mlynedd—yn newyddion arbennig o dda, mae'n swm cyfyngedig iawn, ac mae llawer o gyffuriau newydd iawn yn cael eu cyflwyno i’r farchnad sy'n gallu gwneud llawer iawn i helpu i ymestyn bywydau pobl a rhoi'r triniaethau sydd eu hangen arnyn nhw, ond wrth gwrs, maent yn eithriadol o ddrud ar hyn o bryd. Felly, rwy’n dymuno sicrhau bod yr arian hwnnw wir yn cael ei wario ar y cyffur yn unig ac nid er mwyn galluogi bwrdd iechyd i ad-drefnu ei hun. Diolch i chi am hynny.
Diolch am y sylwadau a'r awgrymiadau a’r cwestiynau. Fe geisiaf ymateb i’ch pwynt olaf am y cyffuriau a ddisgrifiwyd gennych yn rhai effeithiol ond eithriadol ddrud. Wel, mae’r cyffuriau hynny sy'n eithriadol o ddrud yn gyffuriau sy'n annhebygol o gael eu cymeradwyo gan NICE neu AWMSG. Dyna pam y mae gennym broses argymhell: mae’n rhaid i’r fantais fod yn unol â'r gost hefyd, oherwydd rhan o'r her pam yr oedd y gronfa cyffuriau canser yn fethiant a pham y mae wedi ei diwygio—yn wir, wedi ei gwthio o’r neilltu a’i hail-lunio yn gyfan gwbl a’i rhoi drwy broses NICE—yw y cydnabuwyd ei bod yn darparu mynediad at gyffuriau am bris nad oedd unrhyw reolaeth drosto o gwbl, sef pam y cafwyd gorwariant aruthrol, ond hefyd yr oedd yn darparu mynediad at gyffuriau, ar sawl achlysur, nad oedd modd profi eu bod yn effeithiol. Nid oes angen i chi dderbyn fy ngair i am hynny: edrychwch ar Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ'r Cyffredin; gofynnwch i Dr Sarah Wollaston am ei barn hi ar y gronfa cyffuriau canser flaenorol. Felly, mewn gwirionedd, dyna pam y mae Llywodraeth y DU wedi diddymu’r gronfa cyffuriau canser flaenorol, a oedd yn wleidyddol effeithiol ond a oedd yn gwneud defnydd gwael o arian cyhoeddus, ac wedi dilyn proses lle maen nhw erbyn hyn, mewn gwirionedd, yn cael gwerthusiad priodol trwy NICE. Yr hyn yr ydym ni'n ei ddweud drwy'r gronfa hon yw y byddwn yn gwneud yn siŵr nad yw pobl yng Nghymru yn cael eu trin yn llai ffafriol. Felly, pan fo’r cyffuriau hynny yn cael eu cymeradwyo ac yn cael gwerthusiad interim gan NICE, maen nhw ar gael yn awr yng Nghymru.
Rwyf eisoes wedi gwneud penderfyniad ar yr arwydd blaenorol a oedd wedi’i amlygu, y meddyginiaethau blaenorol. Maen nhw ar gael yng Nghymru hefyd. Rhan o'r rheswm pam yr ydym yn sôn am feddyginiaeth effeithiol yw ei bod yn mynd trwy’r broses awdurdodol honno i ddeall ei bod yn wirioneddol effeithiol. Y meddyginiaethau hynny, byddan nhw ar gael yn fwy cyson, yn fwy cyflym, oherwydd ein bod ni’n cydnabod y bu her yn flaenorol yng ngallu byrddau iechyd i gynllunio ar gyfer cyflwyno meddyginiaethau newydd, o beidio â chael y berthynas a’r drafodaeth aeddfed honno ynglŷn â’r hyn a oedd ar y gorwel, ac roedd gan wahanol fyrddau iechyd wahanol allu i reoli costau sylweddol i’r gyllideb gyffuriau. Dyna pam ein bod wedi gweld anghysondeb ar draws y rhaglen mewn gwahanol rannau o Gymru ar gyfer meddyginiaethau a gymeradwywyd. Bydd y gronfa newydd hon yn sicrhau nad yw hynny'n digwydd yn y dyfodol, a bydd gennym fynediad cyflymach. O ran NICE, gan ein bod ni’n gwneud hyn ar gyfnod cynharach, heb aros am y cyfnod apelio, dyna pam y bydd yn sicr y bydd gennym feddyginiaethau a argymhellwyd ar gael yn gynt yng Nghymru nag yn Lloegr. Mae'n fantais wirioneddol ac yn wirioneddol arloesol, yn unol â'r addewid yn ein maniffesto.
Rwyf eisiau dychwelyd at y pwynt yr ydych yn ei wneud am y diwydiant a’r cymorth a'r ad-drefnu gwasanaethau a allai fod yn angenrheidiol. Gwnes i sylwadau am hyn a chyfeirio ato yn fy natganiad ac yn fy llythyr hefyd. Mae sôn yma amdanom yn meithrin perthynas fwy aeddfed â’r diwydiant fferyllol yma yng Nghymru, oherwydd, os ydyn nhw’n dymuno bod eu meddyginiaethau ar gael yn gyflym o fewn y system, mae’n rhaid iddyn nhw fynd trwy broses werthuso briodol, mae angen iddyn nhw fod yn agored am yr hyn sydd ar y gorwel ac ymddiried rhywfaint yn y sgyrsiau hynny â'r gwasanaeth ac yn y broses werthuso gyfan. Mae hynny'n cynnwys sut y bydd y feddyginiaeth honno yn cael ei darparu, ac rydym wedi gweld hyn mewn nifer o feysydd, pan fo’r diwydiant, mewn gwirionedd, yn fwy agored i siarad am yr hyn y byddai angen i chi ei wneud i allu darparu meddyginiaeth newydd yn effeithiol, a beth y mae hynny'n ei olygu i'r bwrdd iechyd—nid dim ond yr arian, ond y cymorth ar ei chyfer hefyd. Dyna'r hyn y bwriedir i'r gronfa helpu i’w gyflawni. Felly, rwy'n wirioneddol gadarnhaol am yr hyn yr ydym yn ei wneud i gyflawni ein haddewid maniffesto, cyflawni ymrwymiad allweddol yn y rhaglen lywodraethu, ac rwy’n credu y bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r GIG, ond, yn bwysicach fyth, gwahaniaeth gwirioneddol i bobl Cymru yr ydym yma i’w gwasanaethu.
Rwyf i’n sicr yn croesawu'r datblygiad hwn. Rwy'n falch ein bod ni, drwy drafodaethau yn dilyn yr etholiad a arweiniodd at y compact ac mewn trafodaethau diweddarach ynghylch y gyllideb, wedi gallu gweithio gyda'r Llywodraeth i sicrhau’r pecyn hwn a fydd, gobeithio, yn gwneud gwahaniaeth i gleifion yng Nghymru. Nodaf ei bod yn bwysig aros am ganlyniad yr adolygiad IPFR, oherwydd bydd hynny yn allweddol hefyd i bobl â chlefydau prin a ffurfiau prin ar glefydau. Rwy'n falch bod y Ceidwadwyr erbyn hyn yn gweld nad oedden nhw’n canlyn buddiannau cleifion yng Nghymru trwy fynd ar drywydd y gronfa cyffuriau canser. [Torri ar draws.] Na, pe byddech chi yma funud neu ddwy yn ôl, byddech chi wedi clywed—[Torri ar draws.] Byddech chi wedi clywed eich llefarydd yn dweud bod hyn yn agor y drws yn briodol i gyllid ar gyfer cleifion sy'n dioddef o’r holl glefydau, oherwydd nid y bobl sy’n dioddef o ganser yn unig y mae angen i'r Llywodraeth eu helpu, ac rwy’n falch bod hon yn gronfa triniaethau newydd ac nid cronfa cyffuriau canser y unig, er mor bwysig yw hi i gael cyffuriau i gleifion canser.
Mae gennyf nifer o gwestiynau. Mae'r newid i ddau fis yn dilyn cymeradwyaeth i'w groesawu, ond gwyddom fod tri mis yn her i BILl ar adegau, er ei fod yn ofyniad—mae'n rhaid i ni gofio hynny—ac yn aml yr oedd angen ymyriadau gan Aelodau yma ar ran cleifion er mwyn cael mynediad at feddyginiaethau a gymeradwywyd at ddefnydd cyffredinol. Felly, mae dulliau o sicrhau darpariaeth yn allweddol yma. A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r dulliau hynny ac esbonio beth fydd yn digwydd os bydd yn clywed am BILl nad yw'n ychwanegu meddyginiaeth newydd at y rhestr fformiwlâu?
Yn ail, mae NICE ac AWMSG yn sefydliadau mawr eu parch, maen nhw’n gwneud gwaith gwerthfawr, ond gall y broses o werthuso meddyginiaethau newydd gymryd llawer o amser weithiau a gall hefyd esgeuluso ffyrdd newydd o ddefnyddio meddyginiaethau hŷn. Rwy’n meddwl, er enghraifft, am fisffosffonadau a chanser y fron. A yw'r Gweinidog yn credu bod achos dros gynnal cyfarfodydd AWMSG yn amlach yn awr i drafod y materion hyn, yn enwedig o ystyried na ddylai cyllid fod yn gymaint o broblem yn yr achosion hyn?
Nid yw'r datganiad yn sôn am ba mor hir y bydd y cyllid yn para ar gyfer pob meddyginiaeth, ond rydych chi wedi dweud eisoes bod 12 mis o gyllid cyn bod angen i Fyrddau Iechyd Lleol ariannu’r cyffuriau eu hunain. A wnewch chi gadarnhau bod hynny'n parhau a pha brosesau yr ydych yn eu rhoi ar waith i sicrhau bod hynny'n digwydd?
Ac yn olaf, weithiau mae’n bosibl nad yw’r driniaeth orau yn fferyllol ac mae’n bosibl nad meddyginiaeth mohoni; gallai fod yn ddarn newydd o offer neu’n dechneg ar gyfer llawdriniaeth. Gallai fod yn ymyriad anghlinigol newydd. Efallai yn y dyfodol, y byddwn ni’n gweld mwyfwy o dechnolegau y gellir eu gwisgo yn chwarae rhan wrth fonitro cleifion. Ond rydym yn gwybod, yn aml, bod Cymru, yn y gorffennol, wedi bod yn araf i addasu i’r technolegau newydd hyn hefyd. Felly, sut ydych chi’n sicrhau bod GIG Cymru yn gallu monitro’r technolegau newydd hyn er mwyn sicrhau ein bod ni, yma, yn gallu ddefnyddio'r peiriannau a’r offer diweddaraf pan fo gwneud hynny er budd gorau’r claf?
Diolch i chi am eich cyfres o gwestiynau a sylwadau. A bod yn deg, ni wnes i ymdrin yn benodol â'r cwestiwn a ofynnodd Angela Burns am dechnolegau newydd eraill, sef eich cwestiwn diwethaf chi hefyd. Yn wir, mae'r cyhoeddiad hwn yn ymwneud â chronfa triniaethau newydd ar gyfer meddyginiaethau. Mae prosesau a dulliau eraill o asesu effeithiolrwydd ymyriadau eraill, pa un a ydyn nhw’n sôn am therapïau neu am ymyriadau technolegol eraill mewn gwahanol rannau o’r gwasanaeth. Er enghraifft, soniais o'r blaen am ficrolawfeddygaeth newydd ar gyfer lymffedema fel menter newydd sydd mewn gwirionedd yn torri tir newydd ac yn flaenllaw yma yng Nghymru, hefyd. Felly, mae’n siom i mi glywed llefarydd Plaid Cymru yn dweud bod Cymru yn araf yn manteisio ar amrywiaeth o bethau. Mewn gwirionedd, rydym ar flaen y gad ar amrywiaeth o bethau hefyd.
Mae cydbwysedd yn yr hyn y dylem ei wneud, ac wrth siarad am yr hyn y mae GIG Cymru yn ei wneud, ond wrth gwrs, rydym bob amser yn awyddus i ddeall yr hyn y mae cynnydd yn ei olygu, lle y gellir gwneud cynnydd a sut i gael dull system gyfan o wneud hynny mewn gwirionedd. Er enghraifft, mewn technoleg, mae amrywiaeth o wahanol fesurau yr ydym yn eu defnyddio i geisio cyflawni dull ‘unwaith i Gymru’ gwirioneddol mewn ystod o’r gwahanol feysydd hyn. Ond mae hynny'n fater gwahanol sydd ar wahân i bwnc y datganiad a’r cyhoeddiad heddiw.
Ynglŷn â’r cais cyllido cleifion unigol, byddwch chi’n ymwybodol, a bydd llefarwyr iechyd ac Aelodau eraill yn ymwybodol, fy mod i’n disgwyl cael yr adroddiad er mwyn ei gyhoeddi rywbryd yn gynnar eleni, ac edrychaf ymlaen at ei gael gan y grŵp a sefydlwyd, yn dilyn trafodaethau â phobl o bob plaid. Bydd hynny’n ymdrin â’r pethau hynny nad ydyn nhw wedi eu hargymell drwy NICE neu AWMSG. Hwnnw yw’r maes anoddach, lle mae dewisiadau anodd i'w gwneud am y cydbwysedd a buddion unigol. Felly, edrychaf ymlaen at gael yr adroddiad gydag argymhellion i ni eu hystyried a’u dadlau, ac wedyn, yn y pen draw, bydd yn rhaid i'r Llywodraeth benderfynu ar ffordd ymlaen ar gyfer y gwasanaeth. Ond mae hynny'n fater ar wahân a ddaw yn ystod yr wythnosau nesaf.
Rwy’n cydnabod pwynt y drafodaeth yr oeddech yn ei chael ar draws y Siambr â’r Ceidwadwyr am y ffaith bod hwn yn ddull sy’n wirioneddol yn cynnwys yr holl gyflyrau. Gwnaethom gytuno â'r hyn a ddywedodd Cronfa'r Brenin wrth sôn bod y gronfa cyffuriau canser yn codi cwestiynau moesegol anodd a’r annhegwch sy'n codi o ran prisio bywydau rhai cleifion y GIG yn fwy na phobl eraill, yn dibynnu ar natur eu cyflwr. Nid oeddem erioed yn defnyddio’r dull gweithredu hwnnw ac rydym yn gyson gyda dull gwirioneddol deg i bob cyflwr wrth gyflwyno'r gronfa triniaethau newydd.
Ynglŷn ag atebolrwydd am wneud yn siŵr bod yr arian yn cael ei ddefnyddio i bwrpas, dyna pam yr wyf wedi bod yn glir y bydd cyfeiriadau newydd ac y bydd monitro defnydd yr arian hwnnw. Felly, rwy’n glir bod yr arian yno i bwrpas, rwy’n disgwyl iddo gael ei ddefnyddio at y diben hwnnw ac y bydd arweinwyr byrddau iechyd yn cael ei dwyn i gyfrif os profir nad yw hynny’n wir.
Unwaith eto, ynglŷn â’ch pwynt am y dystiolaeth ar gyfer amlder cyfarfodydd y AWMSG, os oes rhagor o dystiolaeth y dylai gyfarfod yn amlach, mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn ei ystyried. Nid yw hwnnw’n rhywbeth sydd wedi ei ddwyn i’m sylw i ar hyn o bryd, gan unigolion eraill na gan y grŵp ei hun, ond rwy’n cadw meddwl agored bob tro os oes rhywbeth y mae'r dystiolaeth yn ei ddweud wrthym y gallem neu y dylem ei wneud i wella'r sefyllfa yma yng Nghymru. Rwy'n hapus yn cadarnhau unwaith eto bod hyn i helpu'r flwyddyn gyntaf o gyflwyno'r meddyginiaethau newydd hyn. Ar ôl hynny, mae ein tystiolaeth yn dweud wrthym fod byrddau iechyd yn well o lawer am reoli a darparu meddyginiaethau newydd o hynny ymlaen. Felly, mae'n gwneud yn siŵr, yn y flwyddyn gyntaf, nad oes yr annhegwch hynny, boed o ran cysondeb neu gyflymder mynediad at feddyginiaethau newydd sy’n wirioneddol newid bywydau.
Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, ac am eich llythyr yn gynharach heddiw. Mae’r newyddion y gall cleifion bellach elwa ar y gronfa triniaethau newydd i’w groesawu, a bydd yn rhyddhad mawr i lawer o gleifion yng Nghymru, y mae rhai ohonyn nhw wedi mynd i Loegr am driniaeth o’r blaen.
Pan drafodir mynediad at feddyginiaethau, mae’n ymwneud fel arfer â chyffuriau canser yn unig, felly mae'n braf gweld bod meddyginiaethau newydd ar gael erbyn hyn i drin cyflyrau fel ffeibrosis cystig, asthma difrifol a hepatitis C, yn ogystal â thriniaethau ar gyfer canser yr ysgyfaint, y fron a’r arennau. Yn ogystal â chroesawu cyflwyniad y gronfa, Ysgrifennydd y Cabinet, mae gen i ychydig o gwestiynau i chi, gan ein bod wedi trafod y cynllun hwn yn helaeth y llynedd. Ysgrifennydd y Cabinet, yn eich llythyr, rydych yn nodi bod 60 o feddyginiaethau newydd wedi eu cymeradwyo ers mis Ebrill. A ydych yn gweithio gyda'r sector fferyllol i sicrhau ein bod yn sganio'r gorwel yn ddigonol, i fod wedi ein paratoi yn briodol i ymdrin â gwerthusiadau meddyginiaeth newydd yn y dyfodol?
Mae eich datganiad a'ch llythyr yn sôn am gyflwyno meddyginiaethau newydd, ond nid oes llawer o sôn am driniaethau newydd. A wnewch chi gadarnhau y bydd y gronfa hefyd yn caniatáu i gleifion gael gafael ar driniaethau newydd arloesol, megis mathau newydd o radiotherapi ac unrhyw driniaeth newydd sy'n dangos budd clinigol clir i gleifion?
Rwy’n falch o weld y byddwch yn annog perthynas waith agosach rhwng y GIG a'r diwydiant fferyllol. Mae'n rhaid i ni weithio'n llawer mwy cydweithredol gyda'r diwydiant fferyllol yn y dyfodol os ydym am sicrhau gwelliannau i ofal cleifion.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r gronfa triniaethau newydd wedi ei chlustnodi’n glir i ddarparu triniaethau gwell i gleifion, felly a fyddwch yn dyrannu rhagor o adnoddau i wella'r cydweithio hwn yn y dyfodol? Mae angen gwelliannau i seilwaith y GIG os ydym am barhau i ddarparu’r triniaethau gorau sydd ar gael i gleifion yng Nghymru.
Diolch i chi unwaith eto am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Edrychaf ymlaen at gael manylion am sut y mae'r cynllun yn gweithio yn ymarferol pan fyddwch yn adrodd ar gynnydd yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Diolch yn fawr.
Diolch i chi am eich sylwadau a'ch cwestiynau, ac am groesawu cyflawniad y rhan hon o'r rhaglen lywodraethu. Rwy'n hapus i ailgadarnhau y pwynt am y broses werthuso ar gyfer mathau newydd eraill o dechnoleg. Mae'r gronfa triniaethau newydd yr ydym yn sôn amdani ar gyfer cyflwyno meddyginiaethau newydd ac wedi eu cymeradwyo. O ran eich pwynt ynglŷn â sganio'r gorwel am feddyginiaethau newydd; mae hynny’n rhan o’r hyn yr ydym ni’n ei wneud yn well yng Nghymru erbyn hyn oherwydd ein bod ni wedi newid natur ein perthynas â'r diwydiant. Mae’r aeddfedrwydd hwnnw yn wirioneddol bwysig i ni, i sicrhau bod gwerthoedd ein gwasanaethau cyhoeddus yn ddiogel, a bod y gwerth a gawn am y meddyginiaethau newydd i’r gwasanaeth iechyd ac i gleifion yn parhau i fod ein blaenoriaeth gyntaf—ond yn yr un modd, i ddeall sut yr ydym yn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i sicrhau bod hynny’n wir, ac i sicrhau, os oes buddion eraill y gellir eu cyflawni o ran y gallu i ddatblygu potensial diwydiannol y diwydiant hwn yng Nghymru, ein bod yn eu cyflawni nhw hefyd.
Ond, mewn gwirionedd, rydym yn cydnabod, wrth fod gan y diwydiant berthynas wahanol, ei bod mewn gwirionedd o fudd iddyn nhw i gael y sgwrs aeddfed hon â ni. Os ydyn nhw’n dymuno i’w meddyginiaethau newydd fod ar gael, i gael eu gwerthuso’n briodol fel y gallan nhw ddeall yr hyn y byddan nhw’n ei wneud mewn cynllun mynediad i gleifion os oes angen hynny, i ddeall yr holl gyngor a gwybodaeth sydd eu hangen i allu cynnal y gwerthusiad yn gyflym ac yn effeithiol ac yna ei gyflwyno, y mae er budd iddyn nhw gael y drafodaeth honno am yr hyn sydd ar y gorwel yn y dyfodol. Rwy'n wirioneddol optimistaidd ynglŷn â hynny—nid yn syml oherwydd fy mod yn berson naturiol optimistaidd, ond mewn gwirionedd oherwydd y sgyrsiau yr ydym wedi eu cael â’r diwydiant. Rwy’n croesawu ac yn cydnabod yn arbennig y sylwadau cefnogol a wnaed heddiw gan Gymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain ynglŷn â chyflwyno’r gronfa.
O ran y pwynt am feddyginiaethau newydd—ac eto, o ran y pwynt nad yw hyn yn ymwneud â dewis dim ond canser fel yr unig gyfres o gyflyrau yr ydym yn barod i wario arian ychwanegol arni yn y ffordd hon—wrth lansio’r gronfa triniaethau newydd es i, fel y mae’n digwydd, i'r clinig feirysau a gludir yn y gwaed yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae'n wasanaeth i Gymru gyfan ac mae'n gwneud gwaith anhygoel i bobl ym mhob cwr o’r wlad. Yr hyn sydd wedi newid mewn gwirionedd yw’r ffaith, yn ogystal â rhoi mynediad i feddyginiaethau newydd yr ydym wedi eu cyflwyno gydag arian newydd—mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i aelodau staff a'r ffordd maen nhw’n rhwydweithio ac yn gweithio ledled Cymru—mae wedi cyflwyno ymdeimlad gwirioneddol o bwrpas clinigol yn yr hyn y maen nhw’n ei ddweud am y ffordd maen nhw’n dymuno cyflawni hyn yn wirioneddol i Gymru gyfan. Felly, mewn gwirionedd, mae'r arian newydd a'r meddyginiaethau newydd wedi bod yn rhan o’r cymorth i gyflawni cynnydd gwirioneddol mewn ymddygiad, triniaeth a chanlyniadau clinigol i gleifion. Oherwydd hynny, i mi, oedd yr elfen fwyaf ysbrydoledig o’r ymweliad—cael cwrdd â chleifion sydd wedi cael gwellhad gwirioneddol yn awr yn sgil y feddyginiaeth newydd sydd wedi ei chyflwyno drwy’r buddsoddiad penodol a wnaed. Dyna beth yr wyf i’n dymuno gweld mwy ohono yn awr ac yn y dyfodol. Felly, mae’n newyddion da i’r gwasanaeth iechyd, ond mae’n newyddion hyd yn oed yn well i’r cleifion y mae'r gwasanaeth iechyd yn eu gwasanaethu.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad? Rwy'n croesawu'n fawr y cyhoeddiad hwn heddiw a'r cyllid ychwanegol sy'n dod gydag ef. Rwyf hefyd yn falch iawn y bydd yr arian a fydd yn mynd i fyrddau iechyd yn cael ei neilltuo a’i fonitro. O gofio hynny, hoffwn ofyn: o fy mhrofiad i ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan, maen nhw, mewn gwirionedd, yn gyflym iawn, iawn yn sicrhau bod cyffuriau ar gael i gleifion ar ôl iddyn nhw fod trwy'r broses werthuso, felly mae gen i rywfaint o bryder, drwy osod terfynau amser ar gyfer yr holl fyrddau iechyd, bod perygl y gallai pethau arafu mewn byrddau iechyd eraill lle mae'r perfformiad wedi bod, hyd yn hyn, yn arbennig o dda. Felly, a gaf i ofyn i chi am hynny, a hefyd gofyn i chi am y dull o ddyrannu adnoddau i bob bwrdd iechyd mewn gwirionedd? A fydd fformiwla yn cael ei defnyddio? A fydd yn cael ei wneud ar sail angen? Oherwydd ni fyddwn i ychwaith eisiau ein gweld ni’n talu byrddau iechyd nad ydyn nhw wedi bod yn perfformio, pan fod sefydliadau fel bwrdd iechyd Aneurin Bevan wedi bod yn cyflawni yn dda iawn yn y maes hwn, hyd y gwelaf i.
Roedd y pwynt arall yr oeddwn i eisiau ei godi yn ymwneud â'r AWMSG a'r ffordd y mae'n gweithio. Rwy’n croesawu cywair eich datganiad pan rydych yn siarad am yr ymdrech deg ar y cyd rhwng diwydiant, GIG Cymru a Llywodraeth Cymru. Roeddwn i’n ddiolchgar i chi am gyfarfod â mi yn ddiweddar i siarad am Avastin, a hefyd i Roche am ddod i fy ngweld i ynglŷn â’r mater, ond rwy’n deall mai un o'r problemau y mae Roche wedi eu cael yw diffyg gwybodaeth gan AWMSG, yn wahanol i awdurdod meddyginiaethau yr Alban a NICE, sy'n rhoi gwybodaeth fanwl am y rhesymau dros wrthod gwerthusiad. Nid ydyn nhw wedi gallu cael yr wybodaeth gan AWMSG. Felly, a gaf i ofyn i chi edrych ar hynny fel y gallwn ni sicrhau bod y broses hon, sy'n allweddol yn awr i gael gafael ar yr arian ychwanegol hwn, mor dryloyw ac mor agored ag y bo modd?
Diolch am y sylwadau ac am y cwestiwn. Wrth gwrs, rwy’n monitro defnydd ac effaith y gronfa. Mae'n bwysig, nid yn unig i gael datganiad lle y gallwn ddweud ein bod wedi gwneud addewid a’i gyflawni. Mae angen i ni wedyn sicrhau ei fod yn gwneud yr hyn yr oeddem yn meddwl y byddai'n ei wneud ac yn darparu’r budd gwirioneddol hwnnw i unigolion ledled y wlad. Ac, wrth wneud hynny, y bydd arian ar gyfer pob bwrdd iechyd. Rwy’n dymuno sicrhau bod pob bwrdd iechyd yn cael cyfran briodol o'r adnodd, ond wedyn bod disgwyliad priodol y byddan nhw’n cyflawni yn sgil hynny. Nid arian mo hwn i’w roi yn y pot a gwneud fel y mynnont ag ef. Dyna pam y bydd yn cael ei neilltuo. Dyna pam y bydd yna gyfarwyddiadau. Dyna pam y byddwn yn monitro defnydd ac effaith yr arian.
Mae'r broses AWMSG wedi bod yn llwyddiannus i ni yng Nghymru. Mae o leiaf 29 o feddyginiaethau newydd wedi bod ar gael yn gyflymach o lawer nag y mae NICE wedi gallu ei wneud ar gyfer y DU gyfan hefyd. Felly, mae hynny'n fantais wirioneddol yn ein gallu ni i sicrhau bod meddyginiaethau ar gael yn gynharach yng Nghymru. Bydd hyn yn ychwanegu at hynny hefyd. Mae rhan o'r her wedi ymwneud â chyflawni cynlluniau mynediad i gleifion—y pwynt am y budd a’r gost rhwng y pwrs cyhoeddus, y cwmni a'r unigolyn a allai elwa ar y driniaeth. Mae hynny'n golygu fy mod yn cael trafodaethau anodd weithiau â’r diwydiant fferyllol. Rwy’n dymuno gweld hyn yn gwella wrth i ni fynd rhagddi.
Mae'r wybodaeth yr wyf wedi’i chael am y mater a godwyd gennych ynglŷn â Roche ac Avastin wedi ymwneud â’r her o ddarparu gwybodaeth, yr amser y dylid ei neilltuo, y gallu a'r parodrwydd i ymuno â chynllun mynediad i gleifion, ond wedyn hefyd am y trafodaethau ynglŷn â sut y mae’r wybodaeth honno’n cael ei throsglwyddo rhwng y ddau. Byddwn yn hapus iawn i drafod â chi er mwyn ymateb i wybodaeth am yr hyn sydd wedi digwydd mewn achos penodol, ond hefyd ar gyfer y dyfodol, oherwydd mae arnaf eisiau gweld yr aeddfedrwydd hwnnw mewn cysylltiad â'r hyn yr wyf wedi’i ddisgrifio yn cael ei ddatblygu, ac yn parhau yn y dyfodol. Oherwydd, fel y dywedais, mae er budd y diwydiant; ond yn yr un modd, mae er budd y GIG a'r cleifion yr ydym ni yma i’w gwasanaethu hefyd.
Mae'n wir, os yw Ysgrifennydd y Cabinet neu Weinidog mewn unrhyw ran o'r DU yn cynnig arian ychwanegol i helpu cyffuriau i fod ar gael yn hawdd, sydd wedi bod yn her dros y blynyddoedd, ac yn wir, drwy'r broses weinyddol, sydd wedi bod yn feichus wrth gael y gymeradwyaeth hynny i gleifion sydd â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd, y bydd croeso cynnes yn sicr i’r penderfyniad hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n gobeithio’n fawr, yn amlwg, eich bod yn cyflawni hyn a'ch bod yn sicrhau nad ydym ni, mewn 12 mis, 18 mis neu ddwy flynedd, yn dal i siarad am rwystrau gweinyddol o fewn ein Byrddau Iechyd Lleol sy'n atal pobl rhag cael gafael ar y cyffuriau y mae NICE a Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru wedi eu cymeradwyo. Y broblem sydd bob amser wrth graidd hyn yw'r cyffuriau nad ydynt wedi'u cymeradwyo. Rydych wedi crybwyll y ffaith y byddwch yn cyflwyno datganiad arall yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf ar y broses IPFR, ac mae Aelodau'r Cynulliad o bob rhan o'r Siambr hwn ac o bob plaid wedi gweithio gyda’i gilydd, i dynnu sylw at broblemau yn ymwneud â’r mater penodol hwn. Hwn yw’r mater sydd, dro ar ôl tro, yn arwain at achos craidd problemau llawer o deuluoedd, llawer o gleifion, ac yn wir, llawer o glinigwyr o ran cael mynediad at gyffuriau sy’n cyfoethogi ac yn gwella bywyd nad yw treialon cychwynnol wedi’u cynnal arnyn nhw ond sy’n dangos cynnydd addawol yn y gwaith datblygu sydd wedi ei wneud gan y cwmnïau fferyllol. Ydw i'n gywir i dybio na fydd yr arian hwn yr ydych wedi’i gyhoeddi heddiw yn gwneud dim i gynorthwyo'r broses IPFR, ac nad yw’r arian yr ydych wedi'i gyhoeddi heddiw ar gael i'r broses IPFR i gynorthwyo cleifion neu glinigwyr wrth wneud penderfyniadau am ddenu cyllid ar gyfer y meddyginiaethau hynny? Yn benodol, ar gyfer ffeibrosis systig, er enghraifft, Orkambi—rwy’n gobeithio fy mod i wedi ynganu hynny’n gywir; rwy’n credu eich bod chi’n gyfarwydd â'r cyffur oherwydd etholwr i chi a minnau, ond nid wyf yn gofyn i chi roi sylwadau ar yr etholwr oherwydd fy mod yn gwerthfawrogi na allwch chi wneud hynny—ni fyddai’r cyffur hwnnw ar gael o dan y cynllun yr ydych chi wedi'i gyhoeddi heddiw, oherwydd, er ei fod wedi perfformio’n addawol mewn treialon, nid yw wedi ei gymeradwyo gan NICE. A yw hynny'n wir? Ac a allwch chi werthfawrogi’r rhwystredigaeth yn awr, a phwysigrwydd cyflawni newid buan iawn mewn unrhyw drafodaethau y gallech fod yn eu cael i ddymchwel y rhwystr sydd wedi bodoli yn y broses IPFR hon yng Nghymru?
Diolch am y cwestiwn. Fel y dywedais i drwy'r datganiad—mewn datganiadau blaenorol a datganiad heddiw—mae hyn yn ymwneud â mynediad cyflym, cyson i feddyginiaethau effeithiol sydd wedi’u cymeradwyo. Ar gyfer y rhai nad ydyn nhw wedi eu cymeradwyo drwy NICE neu'r broses AWMSG, ceir y broses ceisiadau cyllido cleifion unigol—y broses IPFR. Mae’r Aelodau i gyd yn ymwybodol ein bod wedi ymgymryd â darn arbennig o waith gydag adolygiad cyflym i edrych ar yr hyn yr ydym wedi'i wneud yn nhermau gwelliannau yr ydym yn credu y gallem fod wedi eu gwneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a gwelliannau eraill yr ydym yn dymuno eu gwneud yn y dyfodol—ac i gael rhaglen waith ddilys a heriol i geisio ein helpu ni i wneud hynny. Nawr, rwyf wedi nodi mewn ymateb i'r cwestiynau y mae Angela Burns a Rhun ap Iorwerth wedi eu gofyn heddiw, fy mod i’n disgwyl i’r adroddiad hwnnw fod gyda mi o fewn yr wythnosau nesaf. Byddaf yn ei dderbyn o fewn mater o wythnosau, nid misoedd. Rwy'n siŵr y bydd gan bawb farn arno, a bydd yn rhaid, yn y pen draw, i'r Llywodraeth ymateb iddo. Mae hynny'n fater ar wahân. Nid dyna'r mater yr wyf i’n ei gyhoeddi heddiw. Nid dyna oedd ein haddewid maniffesto wedi’i gynllunio i’w gyflawni. Edrychaf ymlaen at ddychwelyd i'r Siambr hon yn yr wythnosau nesaf i roi datganiad arall i chi, Lywydd, ar y broses IPFR, ar yr adolygiad, a sut y bydd y Llywodraeth yn ymateb iddo. Felly, bryd hynny, bydd gennyf ateb ar eich cyfer ar y mater yr ydych wedi’i godi heddiw.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.