6. 5. Datganiad: Y Gronfa Triniaethau Newydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:41 pm ar 10 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:41, 10 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch am y sylwadau ac am y cwestiwn. Wrth gwrs, rwy’n monitro defnydd ac effaith y gronfa. Mae'n bwysig, nid yn unig i gael datganiad lle y gallwn ddweud ein bod wedi gwneud addewid a’i gyflawni. Mae angen i ni wedyn sicrhau ei fod yn gwneud yr hyn yr oeddem yn meddwl y byddai'n ei wneud ac yn darparu’r budd gwirioneddol hwnnw i unigolion ledled y wlad. Ac, wrth wneud hynny, y bydd arian ar gyfer pob bwrdd iechyd. Rwy’n dymuno sicrhau bod pob bwrdd iechyd yn cael cyfran briodol o'r adnodd, ond wedyn bod disgwyliad priodol y byddan nhw’n cyflawni yn sgil hynny. Nid arian mo hwn i’w roi yn y pot a gwneud fel y mynnont ag ef. Dyna pam y bydd yn cael ei neilltuo. Dyna pam y bydd yna gyfarwyddiadau. Dyna pam y byddwn yn monitro defnydd ac effaith yr arian.

Mae'r broses AWMSG wedi bod yn llwyddiannus i ni yng Nghymru. Mae o leiaf 29 o feddyginiaethau newydd wedi bod ar gael yn gyflymach o lawer nag y mae NICE wedi gallu ei wneud ar gyfer y DU gyfan hefyd. Felly, mae hynny'n fantais wirioneddol yn ein gallu ni i sicrhau bod meddyginiaethau ar gael yn gynharach yng Nghymru. Bydd hyn yn ychwanegu at hynny hefyd. Mae rhan o'r her wedi ymwneud â chyflawni cynlluniau mynediad i gleifion—y pwynt am y budd a’r gost rhwng y pwrs cyhoeddus, y cwmni a'r unigolyn a allai elwa ar y driniaeth. Mae hynny'n golygu fy mod yn cael trafodaethau anodd weithiau â’r diwydiant fferyllol. Rwy’n dymuno gweld hyn yn gwella wrth i ni fynd rhagddi.

Mae'r wybodaeth yr wyf wedi’i chael am y mater a godwyd gennych ynglŷn â Roche ac Avastin wedi ymwneud â’r her o ddarparu gwybodaeth, yr amser y dylid ei neilltuo, y gallu a'r parodrwydd i ymuno â chynllun mynediad i gleifion, ond wedyn hefyd am y trafodaethau ynglŷn â sut y mae’r wybodaeth honno’n cael ei throsglwyddo rhwng y ddau. Byddwn yn hapus iawn i drafod â chi er mwyn ymateb i wybodaeth am yr hyn sydd wedi digwydd mewn achos penodol, ond hefyd ar gyfer y dyfodol, oherwydd mae arnaf eisiau gweld yr aeddfedrwydd hwnnw mewn cysylltiad â'r hyn yr wyf wedi’i ddisgrifio yn cael ei ddatblygu, ac yn parhau yn y dyfodol. Oherwydd, fel y dywedais, mae er budd y diwydiant; ond yn yr un modd, mae er budd y GIG a'r cleifion yr ydym ni yma i’w gwasanaethu hefyd.