6. 5. Datganiad: Y Gronfa Triniaethau Newydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 10 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:45, 10 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiwn. Fel y dywedais i drwy'r datganiad—mewn datganiadau blaenorol a datganiad heddiw—mae hyn yn ymwneud â mynediad cyflym, cyson i feddyginiaethau effeithiol sydd wedi’u cymeradwyo. Ar gyfer y rhai nad ydyn nhw wedi eu cymeradwyo drwy NICE neu'r broses AWMSG, ceir y broses ceisiadau cyllido cleifion unigol—y broses IPFR. Mae’r Aelodau i gyd yn ymwybodol ein bod wedi ymgymryd â darn arbennig o waith gydag adolygiad cyflym i edrych ar yr hyn yr ydym wedi'i wneud yn nhermau gwelliannau yr ydym yn credu y gallem fod wedi eu gwneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a gwelliannau eraill yr ydym yn dymuno eu gwneud yn y dyfodol—ac i gael rhaglen waith ddilys a heriol i geisio ein helpu ni i wneud hynny. Nawr, rwyf wedi nodi mewn ymateb i'r cwestiynau y mae Angela Burns a Rhun ap Iorwerth wedi eu gofyn heddiw, fy mod i’n disgwyl i’r adroddiad hwnnw fod gyda mi o fewn yr wythnosau nesaf. Byddaf yn ei dderbyn o fewn mater o wythnosau, nid misoedd. Rwy'n siŵr y bydd gan bawb farn arno, a bydd yn rhaid, yn y pen draw, i'r Llywodraeth ymateb iddo. Mae hynny'n fater ar wahân. Nid dyna'r mater yr wyf i’n ei gyhoeddi heddiw. Nid dyna oedd ein haddewid maniffesto wedi’i gynllunio i’w gyflawni. Edrychaf ymlaen at ddychwelyd i'r Siambr hon yn yr wythnosau nesaf i roi datganiad arall i chi, Lywydd, ar y broses IPFR, ar yr adolygiad, a sut y bydd y Llywodraeth yn ymateb iddo. Felly, bryd hynny, bydd gennyf ateb ar eich cyfer ar y mater yr ydych wedi’i godi heddiw.