6. 5. Datganiad: Y Gronfa Triniaethau Newydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:13 pm ar 10 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:13, 10 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, unwaith eto, Lywydd. Mae’n bleser gennyf gyhoeddi bod y gronfa triniaethau newydd wedi'i sefydlu erbyn hyn ac y byddaf yn rhyddhau, ar unwaith, £12 miliwn ar gyfer y gyfran gyntaf o gyllid ar gyfer eleni. Roedd y gronfa triniaethau newydd yn ymrwymiad allweddol y gwnaethom ei gyflwyno i bobl Cymru ym mis Mai 2016 ac rydym yn cyflawni ar yr ymrwymiad hwnnw. Ein hymrwymiad oedd buddsoddi £80 miliwn yn ystod oes y Llywodraeth hon mewn cronfa triniaethau newydd. Rydym yn cyflawni, gyda'r gronfa newydd yn darparu swm ychwanegol o £16 miliwn bob blwyddyn, am bum mlynedd, i gyflymu mynediad at feddyginiaethau newydd yng Nghymru.

Bydd y gronfa'n cefnogi byrddau iechyd i sicrhau bod yr holl feddyginiaethau newydd a argymhellwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal a Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru ar gael yn gyflymach ac yn fwy cyson ledled Cymru. Ysgrifennais at Aelodau'r Cynulliad y bore ’ma, gan ddarparu manylion am sut y bydd y gronfa triniaethau newydd yn gweithredu. Bydd y gronfa newydd o fudd i gleifion yng Nghymru mewn tri maes allweddol. Bydd yr holl feddyginiaethau newydd a argymhellir ar gael o fewn dau fis i gyhoeddi’r argymhelliad, yn hytrach na'r tri mis presennol. Bydd meddyginiaethau a argymhellir gan NICE ar gael o fewn dau fis i gyhoeddi’r penderfyniad gwerthuso terfynol am y tro cyntaf, yn hytrach nag aros am y canllawiau terfynol ar werthuso technoleg, a gaiff eu cyhoeddi ar ôl y cyfnod apelio, a all fod hyd at wyth wythnos yn ddiweddarach. A bydd meddyginiaethau canser newydd a gaiff argymhelliad interim gan NICE hefyd ar gael i gleifion yng Nghymru o fewn yr un terfynau amser.

Mae'r gronfa triniaethau newydd wedi ei chynllunio i drin pob cyflwr yn gyfartal. Rydym yn cydnabod y bydd pob unigolyn a gaiff ei effeithio gan gyflwr sy’n cael effaith ar ei fywyd eisiau sicrwydd bod gan Lywodraeth Cymru yr un diddordeb yn ei sefyllfa, ni waeth ble mae’n byw yng Nghymru, trwy wneud yn siŵr y caiff yr holl feddyginaiethau newydd a argymhellir eu cyflwyno cyn gynted â phosibl ac yn gyson, ac nid yw honno’n ymagwedd a fabwysiadwyd yn rhannau eraill o'r DU. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi darparu £200 miliwn yn ychwanegol i GIG Cymru yng nghyllideb 2016-17 i ariannu effaith barhaus y galw am wasanaethau iechyd a’r cynnydd mewn taliadau a chostau eraill, fel y nodwyd yn adroddiad y Sefydliad Iechyd yn ddiweddar, 'Y llwybr i gynaliadwyedd'. Mae'r cyllid ychwanegol hwn o £80 miliwn yn ystod oes y Llywodraeth hon ar gyfer y gronfa triniaethau newydd yn fuddsoddiad sylweddol pellach a fydd yn cyflawni’r cyflwyniad cynnar cyflymach a mwy cyson o feddyginiaethau newydd.

Rydym yn cydnabod bod meddyginiaethau a thriniaethau newydd yn cael eu darganfod, eu datblygu a’u profi o hyd, gan gynnig gobaith o wellhad neu ansawdd bywyd gwell i bobl ag amrywiaeth o afiechydon sy'n peryglu bywydau. Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn helpu i gael gwared ar ansicrwydd ynghylch cyllid ar gyfer triniaethau newydd yn y dyfodol ac yn helpu GIG Cymru i baratoi cynlluniau cynaliadwy ar gyfer cyflwyno meddyginiaethau newydd. Bydd y £12 miliwn sydd ar gael yn awr yn cael ei ddefnyddio i helpu i gefnogi cyflenwi meddyginiaethau newydd ac effeithiol a argymhellwyd ers mis Ebrill y llynedd i Gymru gyfan. Mae hyn yn cynnwys meddyginiaethau newydd i drin canser y prostad a chanser yr ofari, nychdod cyhyrol a methiant y galon. Mae cost flynyddol o ryw £1 miliwn i bob un o'r rhain.

Bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi cyflwyno meddyginiaethau newydd a argymhellwyd yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, yn ogystal â'r rhai sydd yn yr arfaeth gan Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal y mis hwn. Mae hynny'n cynnwys meddyginiaethau newydd i drin canser, psorïasis difrifol, hepatitis C, ffeibrosis systig mewn plant dan chwech oed, asthma difrifol, a chyffur newydd sy'n driniaeth y mae angen mawr amdani ar gyfer clefydau prin yr ysgyfaint sy’n peryglu bywydau. Mae pob un o'r clefydau hyn yn peryglu bywyd a/neu’n wanychol, ac mae'r meddyginiaethau newydd hyn yn mynd i'r afael ag angen clinigol nad yw wedi’i ddiwallu neu’n cynrychioli newid sylweddol mewn triniaeth. Bydd y £12 miliwn yr wyf yn ei ryddhau yn awr i fyrddau iechyd yn helpu i gyflwyno’r holl feddyginiaethau newydd pwysig hyn sydd wedi eu hargymell yn gyflym ac yn gyson.

Bydd y gyfran olaf o £4 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol hon yn cael ei rhyddhau i fyrddau iechyd yn ddiweddarach y mis hwn i gefnogi cyflwyniad cyflym y meddyginiaethau hyn ac i alluogi byrddau iechyd i gynllunio'n fwy effeithiol ar gyfer cyflwyno meddyginiaethau newydd sydd i’w gwerthuso rhwng nawr a diwedd mis Mawrth 2017.

Yn ystod 2017, byddwn yn gwella'r rhagolwg gwerthuso meddyginiaethau i hwyluso'r broses o ryddhau cyllid ymlaen llaw yn rheolaidd drwy gydol pob blwyddyn o'r gronfa ac i gefnogi proses gynllunio gynnar i gyflwyno'r meddyginiaethau newydd. Byddaf yn cyhoeddi cyfarwyddiadau newydd i fyrddau iechyd cyn diwedd y mis i glustnodi’r gronfa er mwyn cefnogi’r gwaith o gyflwyno meddyginiaethau newydd sydd wedi eu hargymell. Byddwn hefyd yn monitro'r nifer sy'n manteisio ar feddyginiaethau newydd a'r gostyngiad mewn graddfeydd amser, gan fy mod i’n dymuno bod yn glir bod y gronfa yn cael ei defnyddio at ei diben a'i bod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

I gefnogi mynediad at feddyginiaethau yng Nghymru ymhellach, byddaf yn parhau i annog y diwydiant fferyllol i weithio gyda GIG Cymru i gefnogi ein hagenda i sicrhau bod meddyginiaethau newydd a argymhellir ar gael yn gyflym. Mae gan y diwydiant swyddogaeth allweddol wrth gefnogi a gwella ein prosesau blaengynllunio sy'n gysylltiedig â chreu rhagolygon ariannol tymor hirach a chynorthwyo byrddau iechyd i nodi pan fo angen seilwaith a/neu ad-drefnu gwasanaethau i gefnogi cyflwyniad meddyginiaeth newydd, a hynny cyn gynted ag sy’n bosibl. Os yw ein system gofal iechyd am ddarparu dull cynaliadwy, ymatebol o gyflwyno meddyginiaethau newydd sy'n gyflym ac yn gyfrifol, mae angen ymdrech dda ar y cyd gan y diwydiant, GIG Cymru a Llywodraeth Cymru, a chroesawyd y neges hon pan siaradais yng nghynhadledd flynyddol Cymdeithas Brydeinig y Diwydiant Fferyllol ym mis Tachwedd y llynedd.

Addawodd y Llywodraeth hon i gyflwyno cronfa triniaethau newydd i roi mynediad cyflym at driniaethau newydd, arloesol ac effeithiol i bobl Cymru. Rwy’n falch o gadarnhau ein bod yn cyflawni ein hymrwymiad ym mlwyddyn gyntaf y Llywodraeth hon ac yn ‘Symud Cymru Ymlaen’. Byddaf yn adrodd ar y cynnydd o ran gweithredu’r gronfa newydd cyn toriad yr haf.