6. 5. Datganiad: Y Gronfa Triniaethau Newydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:19 pm ar 10 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 4:19, 10 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n croesawu eich datganiad heddiw, ac wrth gwrs mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn falch iawn o weld £12 miliwn yn mynd i'r GIG—mae croeso mawr i unrhyw arian ychwanegol i'r GIG. Fodd bynnag, rwyf i wedi drysu braidd gan yr addewid a wnaethoch i bobl yn eich maniffesto, sef, ac fe’i darllenaf i chi, os caf i:

Byddwn yn cyflwyno Cronfa Triniaethau Newydd arloesol, a fydd yn galluogi'r cyffuriau mwyaf datblygedig a thriniaethau cost uchel ar gyfer canser ac afiechydon eraill sy'n bygwth bywyd i fod ar gael yng Nghymru yn gyntaf.

Nawr, bydd llawer o bobl wedi deall o weld hynny, mewn achosion pan fo cyffuriau wedi eu cymeradwyo o ran eu gallu technegol—maen nhw’n gwneud y gwaith—ond nid ydyn nhw wedi eu cymeradwyo gan NICE oherwydd y dadansoddiad cost a budd, bod pobl wedi ceisio cael gafael ar y cyffuriau hynny. Ac, wrth drafod cronfa triniaethau canser gan Geidwadwyr Cymreig, roeddem yn sôn am roi arian ar gyfer y mathau hynny o gyffuriau, ond mae'n ymddangos i mi bod yr arian hwn yr ydych yn sôn amdano heddiw, y £12 miliwn sy’n arwain at yr £80 miliwn dros bum mlynedd, mewn gwirionedd yn ymwneud â chael byrddau iechyd i ddarparu'r cyffuriau sydd eisoes wedi eu cytuno gan NICE, ac sydd eisoes wedi eu cytuno gan Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru, ychydig yn gyflymach. A dweud y gwir, fe ddylen nhw fod yn gwneud hynny beth bynnag, oherwydd bod gan holl bobl Cymru, holl ddinasyddion Cymru, hawl i gael gafael ar driniaethau sydd wedi eu cytuno a'u cymeradwyo gan y cyrff hynny, ac ni ddylai unrhyw fwrdd iechyd fod yn llusgo’u traed ynglŷn â hynny.

Felly, a wnewch chi egluro i mi os gwelwch yn dda beth fydd yn digwydd gyda’r cyffuriau hynny sydd wedi eu cymeradwyo o ran eu heffeithlonrwydd technegol, ond heb eu cymeradwyo oherwydd y dadansoddiad cost a budd—cyffuriau nad ydynt yn ffitio i mewn i'r system ceisiadau cyllid cleifion annibynnol? Ydy hyn yn golygu y bydd diwedd ar y loteri cod post, lle’r oedd pobl yng Nghymru yn ceisio teithio i Loegr neu wledydd cartref eraill i gael gafael ar gyffuriau a thriniaethau nad oedden nhw ar gael yma? Os yw'n golygu rhoi diwedd ar y loteri cod post honno, fe fyddaf i ar ben fy nigon. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi egluro hynny i ni.

Ystyriais y pwynt a wnaed gan Lywodraeth Cymru mai’r broblem, mewn gwirionedd, gyda chael cronfa triniaethau ar gyfer canser yn unig, er enghraifft, oedd ei bod yn rhy gul, ac rwy’n croesawu’r ffaith bod y gronfa hon ar gyfer pob salwch creulon ac anarferol, ei bod ar gyfer yr holl driniaethau newydd, ac, mewn gwirionedd, a wnewch chi gadarnhau i mi nad yw’n ymwneud dim ond â chyffuriau ond y gall hefyd gynnwys triniaethau technegol—mathau arbenigol iawn o lawdriniaeth, er enghraifft? Oherwydd hoffwn wneud yn siŵr bod y rheini hefyd wedi eu cynnwys—llawdriniaethau nad ydynt yn rhai cyffredin. A wnewch chi egluro i mi beth fyddai'n digwydd pe bai NICE yn cymeradwyo cyffur? A yw’n bosibl cael sefyllfa pan nad yw Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru o’r un farn? A oes gwrthdaro byth? Os oes gwrthdaro, a oes cynnig ar waith ar gyfer datrys y gwrthdaro hwnnw?

A wnewch chi hefyd gadarnhau i mi pa un a fydd yr arian sydd ar gyfer triniaethau newydd hefyd yn cynnwys cymorth ychwanegol o gwmpas y cyffuriau? Nawr, mi wnes i, yn amlwg, ddarllen eich paragraff sy'n dweud i gefnogi mynediad at feddyginiaethau yng Nghymru, byddaf yn parhau i annog y diwydiant fferyllol i weithio gyda byrddau iechyd, ac ati, ond, wrth gwrs, bydd angen cymorth penodol ar gryn dipyn o'r cyffuriau hyn i'w gweithredu. Felly, a fydd yr arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y cyffur yn unig, neu’r cyffur a'r cymorth, neu a fyddech yn disgwyl i'r bwrdd iechyd ad-drefnu eu staff cymorth a’u seilwaith gan ddefnyddio eu harian eu hunain? Rwy'n credu y byddai’n ddefnyddiol cael eglurhad ar hynny, oherwydd er bod £12 miliwn, efallai £16 miliwn, y flwyddyn—£80 miliwn dros bum mlynedd—yn newyddion arbennig o dda, mae'n swm cyfyngedig iawn, ac mae llawer o gyffuriau newydd iawn yn cael eu cyflwyno i’r farchnad sy'n gallu gwneud llawer iawn i helpu i ymestyn bywydau pobl a rhoi'r triniaethau sydd eu hangen arnyn nhw, ond wrth gwrs, maent yn eithriadol o ddrud ar hyn o bryd. Felly, rwy’n dymuno sicrhau bod yr arian hwnnw wir yn cael ei wario ar y cyffur yn unig ac nid er mwyn galluogi bwrdd iechyd i ad-drefnu ei hun. Diolch i chi am hynny.