6. 5. Datganiad: Y Gronfa Triniaethau Newydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:27 pm ar 10 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:27, 10 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Rwyf i’n sicr yn croesawu'r datblygiad hwn. Rwy'n falch ein bod ni, drwy drafodaethau yn dilyn yr etholiad a arweiniodd at y compact ac mewn trafodaethau diweddarach ynghylch y gyllideb, wedi gallu gweithio gyda'r Llywodraeth i sicrhau’r pecyn hwn a fydd, gobeithio, yn gwneud gwahaniaeth i gleifion yng Nghymru. Nodaf ei bod yn bwysig aros am ganlyniad yr adolygiad IPFR, oherwydd bydd hynny yn allweddol hefyd i bobl â chlefydau prin a ffurfiau prin ar glefydau. Rwy'n falch bod y Ceidwadwyr erbyn hyn yn gweld nad oedden nhw’n canlyn buddiannau cleifion yng Nghymru trwy fynd ar drywydd y gronfa cyffuriau canser. [Torri ar draws.] Na, pe byddech chi yma funud neu ddwy yn ôl, byddech chi wedi clywed—[Torri ar draws.] Byddech chi wedi clywed eich llefarydd yn dweud bod hyn yn agor y drws yn briodol i gyllid ar gyfer cleifion sy'n dioddef o’r holl glefydau, oherwydd nid y bobl sy’n dioddef o ganser yn unig y mae angen i'r Llywodraeth eu helpu, ac rwy’n falch bod hon yn gronfa triniaethau newydd ac nid cronfa cyffuriau canser y unig, er mor bwysig yw hi i gael cyffuriau i gleifion canser.

Mae gennyf nifer o gwestiynau. Mae'r newid i ddau fis yn dilyn cymeradwyaeth i'w groesawu, ond gwyddom fod tri mis yn her i BILl ar adegau, er ei fod yn ofyniad—mae'n rhaid i ni gofio hynny—ac yn aml yr oedd angen ymyriadau gan Aelodau yma ar ran cleifion er mwyn cael mynediad at feddyginiaethau a gymeradwywyd at ddefnydd cyffredinol. Felly, mae dulliau o sicrhau darpariaeth yn allweddol yma. A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r dulliau hynny ac esbonio beth fydd yn digwydd os bydd yn clywed am BILl nad yw'n ychwanegu meddyginiaeth newydd at y rhestr fformiwlâu?

Yn ail, mae NICE ac AWMSG yn sefydliadau mawr eu parch, maen nhw’n gwneud gwaith gwerthfawr, ond gall y broses o werthuso meddyginiaethau newydd gymryd llawer o amser weithiau a gall hefyd esgeuluso ffyrdd newydd o ddefnyddio meddyginiaethau hŷn. Rwy’n meddwl, er enghraifft, am fisffosffonadau a chanser y fron. A yw'r Gweinidog yn credu bod achos dros gynnal cyfarfodydd AWMSG yn amlach yn awr i drafod y materion hyn, yn enwedig o ystyried na ddylai cyllid fod yn gymaint o broblem yn yr achosion hyn?

Nid yw'r datganiad yn sôn am ba mor hir y bydd y cyllid yn para ar gyfer pob meddyginiaeth, ond rydych chi wedi dweud eisoes bod 12 mis o gyllid cyn bod angen i Fyrddau Iechyd Lleol ariannu’r cyffuriau eu hunain. A wnewch chi gadarnhau bod hynny'n parhau a pha brosesau yr ydych yn eu rhoi ar waith i sicrhau bod hynny'n digwydd?

Ac yn olaf, weithiau mae’n bosibl nad yw’r driniaeth orau yn fferyllol ac mae’n bosibl nad meddyginiaeth mohoni; gallai fod yn ddarn newydd o offer neu’n dechneg ar gyfer llawdriniaeth. Gallai fod yn ymyriad anghlinigol newydd. Efallai yn y dyfodol, y byddwn ni’n gweld mwyfwy o dechnolegau y gellir eu gwisgo yn chwarae rhan wrth fonitro cleifion. Ond rydym yn gwybod, yn aml, bod Cymru, yn y gorffennol, wedi bod yn araf i addasu i’r technolegau newydd hyn hefyd. Felly, sut ydych chi’n sicrhau bod GIG Cymru yn gallu monitro’r technolegau newydd hyn er mwyn sicrhau ein bod ni, yma, yn gallu ddefnyddio'r peiriannau a’r offer diweddaraf pan fo gwneud hynny er budd gorau’r claf?