Part of the debate – Senedd Cymru am 5:09 pm ar 10 Ionawr 2017.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cyllid am ei ddatganiad heddiw, ac am gyflwyno cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru. Fel sydd wedi cael ei grybwyll eisoes, wrth gwrs, mae’r gyllideb yma yn rhannol yn ffrwyth trafodaethau rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru—trafodaethau a godwyd o’r dull newydd o gydweithio yr ydym wedi’i ddyfeisio. Mae’n rhaid i mi ddweud, rwy’n credu bod ein gwleidyddiaeth a’n democratiaeth yn elwa o’r math yma o ddeialog, ac efallai bod angen mwy o’r ymagwedd honno. Trwy wella, wrth gwrs, y gyllideb—[Torri ar draws.] Os ydy’r Aelod gyferbyn eisiau codi ar ei draed, mae croeso iddo fe wneud hynny.
Dyma beth yw hanfod democratiaeth, wrth gwrs. Rydym ni i gyd yn cael ein hethol i’r lle yma ar sail maniffesto, a’n prif ddyletswydd ni, wrth gwrs, ydy delifro ar yr addewidion hynny rydym ni wedi rhoi gerbron y bobl sydd wedi ein hethol ni. Wrth gwrs, nid ydym ni wedi medru cael cytundeb rhyngom ni ar bob un peth yn y gyllideb yma; nid ydym ni’n cytuno ar bob un peth, ond rydym ni wedi medru, fel plaid leiafrifol yn y lle yma, rydym ni wedi medru cael dylanwad er budd, er gwell, i fywydau pobl Cymru. Ac onid dyna yw hanfod gwleidyddiaeth ddemocrataidd yn y pen draw: gwella pethau? Peth sarrug iawn yw gweld gwleidyddiaeth fel modd o wrthwynebu—dim ond i wrthwynebu bob amser. Byddwn i’n annog pleidiau eraill i fod ag ymagwedd fwy adeiladol at wleidyddiaeth, i gynnig syniadau ac os maen nhw’n anghytuno, wrth gwrs, i fod yn rhan o’r deialog hynny, ac rwy’n croesawu sylwadau Simon ynglŷn â chreu dull mwy seneddol ar gyfer y broses gyllidebol i gyd.
Fe wnaethon ni lwyddo, trwy’r cytundeb rhyngom ni, i gael rhagor o gyllid ar gyfer sectorau sydd, yn ein tyb ni, wedi dioddef yn ariannol yn ystod y blynyddoedd diwethaf—sectorau fel addysg uwch, addysg bellach, y celfyddydau, yr iaith Gymraeg, llywodraeth leol, buddsoddiad cyfalaf ar gyfer cyfarpar diagnostig, fel y clywon ni yn y datganiad dros y Nadolig, gwariant ar iechyd meddwl, ac yn y blaen. Ac, wrth gwrs, yn y trafodaethau a gawson ni wedyn ar ôl datganiad yr hydref, fe lwyddon ni i gael ragor o arian ar gyfer mynd i’r afael â’r problemau o ganlyniad i’r ailbrisio ar gyfer ardrethu busnes, er enghraifft, a hefyd roedd yn dda i weld rhagor o arian ar gyfer atal llifogydd. Dyna’r wobr sydd yna i’r rhai ohonom ni sydd yn fodlon dod yn rhan o ddemocratiaeth ar sail deialog, ac rwy’n sicr yn amddiffyn hynny fel egwyddor bwysig, os ydy’r lle yma yn mynd i wneud ei waith yn iawn.
Gan edrych ymlaen at y dyfodol, rydw i’n credu bod modd i wella’r broses, ac rydw i’n credu bod yr Ysgrifennydd cyllid yn agored i hynny. Mae’n rhaid sicrhau bod y Senedd yma’n tyfu mewn aeddfedrwydd a chapasiti o ran ei gallu i ddylanwadu ar y gyllideb, ac mae hynny’n wir am bob plaid. Mae eisiau, wrth gwrs, mwy o dryloywder os ydym ni’n mynd i wneud ein gwaith fel Aelodau Cynulliad ac fel grwpiau. Ar gyfer y gyllideb ddrafft, fe wnaethon ni goladu, gyda chymorth y Llywodraeth, yn y pen draw, yr holl wahanol eitemau—y prif grwpiau gwariant, y meysydd rhaglenni gwariant, y camau gweithredu, y BELs, ac yn y blaen—rhyw 7,000 o linellau gwahanol. Os ydym ni’n mynd i wneud ein gwaith, mae’n rhaid ein bod ni’n rhoi’r wybodaeth yna mewn ffordd fwy clir ac agored i bob Aelod Cynulliad ac i’r grwpiau. Ac rwy’n cytuno gyda Nick Ramsay, rydym ni'n credu bod yn rhaid cysylltu gwariant gyda nodau. Roeddwn i wedi cyfeirio yn y drafodaeth ar y gyllideb drafft at ‘programme budgeting’ Robert McNamara o’r 1960au yn yr Unol Daleithiau. Hynny yw, wrth osod cyllideb, mae’n bwysig i osod mas pa gyrhaeddiant rydych chi’n bwriadu sicrhau trwy’r gwariant hynny fel bod modd, wedyn, i siecio yn erbyn y cyrhaeddiant ar ddiwedd cyfnod y gyllideb.
Ac, yn olaf, rydw i’n meddwl ei bod hi’n gwbl annerbyniol, wrth gwrs, yn y broses sydd gennym ni heddiw, mai dim ond derbyn neu wrthod y gyllideb rydym ni’n cael gwneud. Hynny yw, os ydych chi’n edrych ar yr OECD, mae gan dros hanner ohonyn nhw seneddau sydd â hawl anghyfyngedig i wella cyllideb. Felly, rydym ni reit ar yr eithaf posib i’r cyfeiriad arall, lle rydym ni dim ond yn gallu, ar hyn o bryd, dweud ‘ie’ neu ‘na’ i’r gyllideb, a thrwy hynny rydym ni’n colli’r holl syniadau. Nid oes monopoli gan neb, fel plaid nac Aelod Cynulliad, ar syniadau da, ac ar hyn o bryd, trwy’r broses ‘binary’ yma sydd gennym ar hyn o bryd, rydym ni’n colli’r cyfoeth o wahanol ‘perspectives’ sydd yn bodoli ar draws y Siambr. Felly, rwy’n gobeithio y byddwn ni’n gallu symud tuag at Senedd sy’n cynnwys pawb—ac rydw i yn meddwl pawb—wrth i ni lunio cyllidebau ar gyfer y dyfodol.