7. 6. Dadl: Cyllideb Derfynol 2017-18

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 10 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless UKIP 5:15, 10 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Mae'n bleser cael dilyn Adam Price ac mae gen i ddiddordeb mawr ym mhersbectif a naws yr hyn a ddywed. Ymddengys i mi ei bod yn amlwg bod amrywiaeth o safbwyntiau o fewn ei blaid ef, a'r rhai a oedd gynt yn rhan ohoni, o ran y graddau priodol o gydweithio â Llywodraeth Lafur a'r graddau y mae Plaid yn cymryd cyfrifoldeb am y gyllideb hon. Pan oeddem yn dechrau ar y broses, roeddwn i o leiaf yn cael yr argraff ei fod yn drafodiad rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth Lafur, ac, yn gyfnewid am i’r Blaid ymatal ar y gyllideb, byddai'r Llywodraeth yn cytuno i nifer o fesurau penodol iawn yr oedd Plaid eu heisiau, a dyna oedd y fargen. Ond, wrth wrando arno yn siarad yn awr, ymddengys iddo gymryd llawer mwy o gyfrifoldeb, hyd yn oed balchder, yn y gyllideb sydd ger ein bron heddiw, hyd yn oed os bydd digwydd i’w blaid ddal i ymatal. Mae'n ei disgrifio fel rhyw fath o ffrwyth trafodaethau rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Lafur. Ond onid y gwir yw mai ffrwyth y trafodaethau hynny oedd nifer o brosiectau penodol? Clywsom am ffordd osgoi benodol a blaenoriaethu hynny dros gynlluniau ffyrdd eraill efallai. Ond yn y diwedd nid oedd yn fargen ar y gyllideb gyffredinol ac nid yw hon yn gyllideb Plaid Cymru i amddiffyn pob rhan ohoni, oherwydd rydych ond wedi cytuno i adael rhywfaint ohoni drwyddo yn gyfnewid am gael cyfres o bethau penodol. Rwy'n credu y byddem yn elwa o gael mwy o eglurder ynghylch faint o gyfrifoldeb y mae Plaid Cymru, neu unigolion penodol a all fod yn llefarwyr, yn ei gymryd. Ildiaf.