7. 6. Dadl: Cyllideb Derfynol 2017-18

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:16 pm ar 10 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 5:16, 10 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Dydw i ddim yn siŵr a oedd yr Aelod anrhydeddus yn fy nilyn i yn yr adran honno o fy araith. Rwy'n credu fy mod wedi dweud yn eithaf clir nad oeddem yn cytuno â phopeth yn y gyllideb ac, yn wir, roedd galwadau y gwnaethom fel rhan o'n trafodaethau heb eu bodloni. Felly, rydym yn glir iawn: roeddem yn gallu gwella’r gyllideb, ond rydym yn ymatal oherwydd nad ydym yn cytuno â'r gyllideb yn ei chyfanrwydd.