7. 6. Dadl: Cyllideb Derfynol 2017-18

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 10 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless UKIP 5:17, 10 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Rhoddodd yr Aelod enghraifft: dywedodd fod y cyllid pellach yn y dyfodol ar gyfer amddiffyn rhag llifogydd yn un o'r gwobrau y byddai'n ei amddiffyn drwy'r broses hon. A dweud y gwir, mae rhywfaint o gynnydd yn y gyllideb amddiffyn rhag llifogydd rhwng y gyllideb derfynol a'r gyllideb ddrafft, ond mae'r gyllideb gyffredinol, rwy’n credu, ar gyfer amddiffyn rhag llifogydd yn dal i fod wedi’i gostwng yn sylweddol iawn. A, do, fe wrandawyd ar ein Pwyllgor Cyllid a bu rhywfaint o roi yn ôl ar yr ochr gyfalaf i gyllideb Lesley Griffiths. Ond mae gostyngiadau sylweddol iawn yn dal i fod sy'n effeithio ar yr hyn sydd, ar gyfer rhoi arwydd o rinwedd mawr, yn cael eu disgrifio fel 'prosiectau newid hinsawdd'. Mae toriadau yno, ac mae'n sôn am amddiffyn y codiadau hyn ymhellach gyda balchder, ond nid dyna mewn gwirionedd yw’r sefyllfa. Os bydd yn edrych ar y gyllideb lawn— [Torri ar draws.] —yn hytrach na'r manylion. Wel, dydw i ddim yn hollol siŵr eich bod wedi gwneud hynny, Adam. Rwy'n siarad am yr adran hon yma. Rydych wedi cytuno ar gyfres o bethau penodol iawn, y mae’n rhaid i Lafur wedyn ddod o hyd i arian yn rhywle arall i dalu am yr hyn y maent wedi cytuno ei roi i chi er mwyn i chi ymatal, a'r elfen unigol fwyaf o hynny, yn bennaf ar yr ochr gyfalaf, yw’r gostyngiadau i brosiectau newid hinsawdd. Rwy’n meddwl bod angen i chi gydnabod hynny, yn hytrach na hoffi hawlio cefnogaeth i’r pethau yr ydych yn eu gwerthfawrogi, ond nid i bethau eraill.

Fodd bynnag, rwy’n cydnabod yr hyn yr ydych yn ei ddweud a'r hyn a ddywedodd Simon yn nhermau symud at yr hyn yr wyf yn credu y dywedodd Simon oedd yn broses fwy seneddol o Fil cyllid y gellid ei ddiwygio’n llwyr. Wrth gwrs, yn Senedd San Steffan, mae'r Bil cyllid yn ymdrin â threth yn unig a bydd hynny, hyd yn oed y flwyddyn nesaf, yn parhau i fod yn gyfran gweddol fach o'r hyn a wnawn. Y maen prawf allweddol i mi yw a yw ochr gwariant y gyllideb hon yn mynd i fod yn un y gellir ei diwygio ac, yn benodol—ac fe wrandawyd ar rai o'n sylwadau yn y Pwyllgor Cyllid ac rwy’n gwerthfawrogi hynny-a fydd cyfle i ddiwygio llinellau gwariant y gyllideb yn y Pwyllgor Cyllid, lle, o leiaf mewn egwyddor, mae gan yr wrthblaid fwyafrif.

Mae gennym rai newidiadau. Siaradodd y Gweinidog Cyllid ynghylch y cynnydd o £46 miliwn mewn gwariant refeniw rhwng y gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol. Disgrifiodd fod hyn yn dod yn bennaf o gronfeydd wrth gefn. Dydw i ddim yn hollol glir sut y mae'n ei asesu yn y ffordd honno, o gofio, rhwng y drafft a'r gyllideb derfynol, y cawsom gynnydd o £23.4 miliwn mewn gwariant refeniw sydd ar gael gan Lywodraeth y DU drwy ddatganiad yr hydref. Dyna ychydig dros hanner y cynnydd sydd ganddo bellach yn y refeniw. Felly, dydw i ddim yn glir bod hynny yn dod o'r cronfeydd wrth gefn. Rhywfaint o'r hyn y mae hynny wedi cael ei wario arno—£10 miliwn ar gyfer y rhyddhad ardrethi busnes a rhywfaint o'r cynnydd mawr sy’n cael ei liniaru yno—roeddwn yn meddwl tybed a allem efallai ddangos yn fwy clir o flaen llaw trwy'r prisiadau yr hyn y byddai angen i fusnesau ei gael. Croesawaf yn arbennig y £6 miliwn ar gyfer atal digartrefedd. Nodaf fod nifer o eitemau eraill sy'n bwydo drwodd i lywodraeth leol y rhoddwyd cyllideb wastad yn fras iddynt o'r blaen. Fy mhryder i o hyd yw bod toriadau llym yn dod i mewn ym maes llywodraeth leol, ond mae’r Llywodraeth wedi ystyried ei bod yn ddoeth gohirio'r rheini nes ar ôl yr etholiadau lleol.

Sylwch ar y newidiadau pellach yn y cyllidebau cyfalaf: rydym yn mynd i gael £7 miliwn arall ar gyfer ffyrdd y flwyddyn nesaf, ac yna £83 miliwn yn ystod y cyfnod o bedair blynedd ar gyfalaf. Mae’r swm hwnnw, wrth gwrs, yn cael ei lethu gan y swm o arian y byddai Llywodraeth Cymru yn ei roi i’r llwybr du, a amcangyfrifir i fod yn £1.1 biliwn a mwy. Rwy’n gwneud apêl derfynol: onid oes modd inni ystyried y byddai’r arian hwnnw’n cael ei wario’n well ar fersiwn ratach, ond yn fy marn i, gyflymach y llwybr glas sy’n haws ei chyflawni, ac edrych ar roi'r swm mawr iawn hwnnw o gyfalaf i brosiectau eraill a allai gael enillion cyflymach a mwy priodol ar draws Cymru?