Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 10 Ionawr 2017.
Yn gyntaf, a gaf i ddweud fy mod yn croesawu’n fawr ffordd osgoi Llandeilo? Caniateir ffyrdd newydd i ni yn y de-orllewin hefyd. Mae angen rhoi’r gyllideb yng nghyd-destun y polisïau a ddilynir yn San Steffan. Er bod bron y cyfan o gyllideb Llywodraeth Cymru yn dod drwy'r grant bloc, mae toriadau mewn gwariant yn Lloegr yn cynhyrchu, drwy fformiwla Barnett, doriadau i grant bloc Cymru. Yr hyn yr ydym wedi ei weld ers i'r Ceidwadwyr ddod i rym yw toriadau sylweddol yng nghyllideb Cymru mewn termau real. Mae hyn yn cyfateb yn economaidd i arfer meddygon hyd at y ddeunawfed ganrif o ddefnyddio un driniaeth i drin pob anhwylder—gollwng gwaed. Newidiodd y ddamcaniaeth y tu ôl i'r arfer dros amser, ond roedd yr arfer ei hun yn parhau i fod yr un fath, gyda meddygon yn aml yn gwaedu cleifion nes eu bod yn wan, mewn poen, ac weithiau yn anymwybodol. Dyna beth y mae polisïau cyni’r Torïaid yn ei wneud i Brydain—gwaedu’r economi nes ei bod yn wan.
O Hoover yn America yn y 1920au, a drodd gwymp y farchnad stoc yn Ddirwasgiad Mawr, i'r Ariannin a Gwlad Groeg yn fwy diweddar, mae cyni wedi methu bob tro. Mae'r Torïaid wedi ymrwymo i gyni, nid fel polisi economaidd, ond fel ideoleg. Maent yn awyddus i leihau'r sector cyhoeddus, a'r hyn na allant ei dorri maent yn ceisio i breifateiddio.
Rwyf am siarad am y ddwy linell fwyaf yn Llywodraeth Cymru—iechyd a llywodraeth leol. Yn gyntaf, iechyd: os bydd y tueddiadau presennol yn parhau, bydd iechyd yn fwy na 50 y cant o gyllideb Cymru yn y ddwy flynedd nesaf, ac rwy’n dyfalu y bydd hyn fwy na thebyg y flwyddyn nesaf. Rwyf nawr yn mynd i ddyfynnu o dudalen 16 adroddiad Nuffield yn 2014, ‘The four health systems of the United Kingdom: How do they compare?’ Ar draws y pedair gwlad, bu gostyngiad yng nghyfanswm derbyniadau cleifion mewnol fesul meddyg a deintydd ysbyty rhwng 1999-2000 a 2011-12. Mae hwn yn ganlyniad anochel y cyfraddau cynnydd yn nifer y meddygon ysbyty sy’n fwy na'r cyfraddau cynnydd mewn derbyniadau i'r ysbyty. Syrthiodd Cymru o ychydig dan 140 i oddeutu 90—tua thraean o ostyngiad. Beth yw’r ffigurau cyfredol, ni wn, ond byddwn yn synnu pe baent yn agos at ffigur 1999-2000.
Mae iechyd, wrth gwrs, yn golygu mwy nag ysbytai. Ceir gofal sylfaenol a dewisiadau ffordd o fyw. Ers creu’r byrddau iechyd, mae cyfran y gyllideb iechyd sy’n cael ei gwario ar ofal sylfaenol wedi gostwng. Yn rhy aml, rydym yn meddwl, 'Ar gyfer iechyd, gweler ysbytai'. Un hwb mawr i iechyd fu’r gostyngiad yn y nifer o bobl nad ydynt yn ysmygu. Bydd cael pobl i roi'r gorau i ysmygu, sicrhau bod dull o fyw pobl yn fwy actif, lleihau gordewdra a chynyddu ymarfer corff i gyd yn gwella iechyd, ac nid fi yw'r unig un sy'n credu y bydd lleihau nifer y cyfleusterau chwaraeon megis canolfannau hamdden yn effeithio ar iechyd Cymru.
Gan droi at lywodraeth leol, er bod setliad llywodraeth leol eleni yn well na'r disgwyl—yn sylweddol well na'r disgwyl—mae'n dal i fod yn doriad mewn termau real. Credaf fod gofal cymdeithasol yn y gwasanaethau cymdeithasol dan fwy o bwysau nag iechyd. Mae gofal cymdeithasol yn rhywbeth sydd ei angen ar bobl am gyfnod hir yn ystod eu hoes. Er bod rhai pobl yn gorfod mynd i'r ysbyty neu'n cael problemau iechyd mawr yn ystod 12 mis i ddwy flynedd olaf eu hoes, gallai fod angen cefnogaeth gofal cymdeithasol arnynt am hyd at 40 mlynedd o’u hoes. Mae hynny yn mynd i ddwyn costau a fydd yn dod drwyddo drwy lywodraeth leol. Gan fod mwy a mwy o bobl yn byw i fod yn 100—dwi'n siarad, fwy na thebyg, ag ystafell yn llawn o bobl sydd i gyd yn gobeithio gwneud yr un peth—rwy'n credu ei bod yn bwysig inni sylweddoli bod pobl yn mynd i fod angen mwy a mwy o ofal wrth iddynt fynd yn hŷn. Dyma, mewn gwirionedd, y bom amser sydd yn eistedd yno, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled gweddill gorllewin Ewrop.
Mae gennym argyfwng iechyd yn Lloegr a grëwyd gan y Torïaid. Maen nhw wedi torri ar wariant llywodraeth leol, maen nhw wedi torri ar ofal cymdeithasol, a nawr mae ganddynt ysbytai sy’n methu rhyddhau cleifion. Maen nhw wedi deall beth wnaethant o’i le, maen nhw wedi newid yr hyn a arferai fod yn bolisi ganddynt ar lywodraeth leol, ac nid ydym wedi cael dadl llywodraeth leol heb i Janet Finch-Saunders godi a dweud, ‘Dylem rewi’r dreth gyngor.' Ond rydych wedi ei newid yn Lloegr yn awr; rydych yn dweud y gallwch godi arian i dalu am ofal cymdeithasol, nad yw'n mynd i fod yn arbennig o fanteisiol yn y rhanbarthau tlotaf. Mae bron fel mynd yn ôl at hen Ddeddf y Tlodion, lle mai’r ardaloedd tlotaf, sydd â'r rhan fwyaf o bobl mewn angen, á’r gallu lleiaf i godi arian, tra bod yr ardaloedd cyfoethocaf á’r gallu mwyaf i godi arian. I’r cyfeiriad hwnnw y mae gofal cymdeithasol yn mynd, ac rwyf i yn un sy’n anhapus gyda hynny. Rwy'n falch iawn fod gennym Lywodraeth Lafur yng Nghymru, nad yw'n dilyn ymlaen o'r hyn a wnaeth y Ceidwadwyr i ddinistrio iechyd a llywodraeth leol yn Lloegr.
Mae llywodraeth leol wedi wynebu toriadau anghymesur gan y Torïaid yn Lloegr. Rwyf i wedi dilyn polisïau'r Torïaid dros y chwe blynedd diwethaf o'r hyn y maent yn dymuno ei wneud: dylid torri cyfanswm y setliad llywodraeth leol a dylid rhoi arian ychwanegol i iechyd, dylid rhewi’r dreth gyngor, dylai llywodraeth leol ganolbwyntio yn unig ar wasanaethau statudol, a dylai gwariant canolog gan awdurdodau addysg lleol ddod i ben. Beth mae hyn yn ei olygu mewn gwirionedd? Oherwydd mae pobl yn aml yn sôn am dorri pethau, ond beth maent yn ei olygu wrth hynny? Byddai'n golygu cau’r rhan fwyaf o lyfrgelloedd, cau pob parc, cau pob canolfan hamdden, dim cludiant ysgol am ddim, a diwedd ar y rhaglen adeiladu ysgolion. Yn bwysicach, fel y dywedais yn gynharach, byddem yn y pen draw fel Lloegr, gydag ysbytai yn methu rhyddhau cleifion gan nad oes unrhyw un i ofalu amdanyn nhw a does unman ganddynt i fynd.
Cymerodd ganrifoedd i ddarganfod nad oedd gollwng gwaed yn gweithio. Gadewch inni obeithio bod methiant cyni yn mynd i gael ei nodi yn llawer cynt, yn ddelfrydol pan fyddwn yn cael math gwahanol o Lywodraeth.