7. 6. Dadl: Cyllideb Derfynol 2017-18

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:26 pm ar 10 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 5:26, 10 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n croesawu'r symudiadau yn y gyllideb i weithredu rhai o'r addewidion allweddol ym maniffesto Llafur Cymru o’r llynedd, yn benodol, y £53 miliwn tuag at ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy, y £15 miliwn ar gyfer ehangu mynediad i brentisiaethau fel rhan o'r symudiad i weithredu 100,000 o brentisiaethau bob oedran, yn ogystal â rhai o'r mesurau economaidd craffach—y £40 miliwn ar gyfer effeithlonrwydd ynni, a fydd, fel y dywedodd y Gweinidog, yn torri biliau 25,000 o gartrefi, yn ogystal â chynhyrchu swyddi lleol— a hefyd rai o'r ymyriadau llai, megis yr £1.5 miliwn ar gyfer genomeg, yn ogystal â'r gronfa grantiau bach gwerth £20 miliwn ar gyfer cymunedau gwledig, sy'n galluogi cymunedau i ariannu pethau fel TGCh a data a datblygu tuag at y model amaethyddiaeth manwl yr ydym wedi’i drafod yn y Cynulliad hwn. Felly, mae’r gyllideb hon, yn fy marn i, yn gamp aruthrol ac yn gam pendant ymlaen tuag at weithredu maniffesto Llafur Cymru.

Rwy’n credu, yn ysbryd y drafodaeth a gafwyd yn y Siambr y prynhawn yma, ei bod yn ddyletswydd arnom i gydnabod nad oes gennym fwyafrif yn y Siambr hon, ac ni fu’r gyllideb hon yn bosibl oni bai am gydweithrediad ar draws ffiniau plaid. Rydym wedi gweld hynny pan gynigiwyd lle i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn y Llywodraeth, a hefyd o ran y compact gyda Phlaid Cymru, sydd wedi dwyn ffrwyth yn y gyllideb hon, ac rwy’n meddwl y dylem gydnabod eu dylanwad adeiladol yn hynny. Rwy’n credu y dylwn, yn unol â rhai o'r pethau sydd wedi cael eu dweud, gynnig rhywfaint o oedi ar gyfer myfyrio ar sut yr ydym yn mynd i gynnal y trafodaethau hyn yn y dyfodol. Nid fy newis i yw y dylem fod yn gwneud bargeinion blynyddol fel hyn, ond, os mai dyma fydd y ffordd, yna, yn anochel, byddwn yn cael ein denu tuag at y lefel gyffredin isaf. Rwy'n credu bod her wirioneddol yn y Cynulliad—y Cynulliad cyntaf a etholwyd yn dilyn Deddf cenedlaethau'r dyfodol—i gymryd golwg tymor hwy. Mae’n amlwg y bydd tensiwn yn codi yn y trefniadau gwleidyddol angenrheidiol y mae’n rhaid i ni eu bodloni i gael cyllideb wedi’i phasio yn y tymor byr. Byddai’n gas gennyf ein gweld yn mynd i’r un cyfeiriad â democratiaethau eraill, yn fwyaf nodedig y system wleidyddol yn America, lle'r ydym yn disgyn i wleidyddiaeth pwrs y wlad. Un o nodweddion y system gyllidebol yn America yw na chaiff cyllideb ei phasio heb i amgueddfa neu bont neu ffordd osgoi gael eu dyfarnu yn enw cadeirydd gwahanol bwyllgorau. Er y gwn fod llawer o bobl yn ei blaid ei hun o’r farn mai Adam Price yw proffwyd y dyfodol, byddai'n gas gennyf weld cerfluniau o’r 'Mab Darogan' yn gwneud cefn gwlad Dwyrain Caerfyrddin yn flêr.

Ond rwy'n credu bod—yr un darn o’r gyllideb yr wyf yn cael anhawster ag ef, ac fe wnaeth Nick Ramsay y pwynt, fel y gwnaeth y Gweinidog, am yr angen i adlewyrchu Deddf cenedlaethau'r dyfodol mewn cyllidebau yn y dyfodol, ac rwy'n edrych ymlaen at weld Nick yn mynd ar ôl y rhesymeg y tu ôl i hynny ac yn adolygu ei safbwynt ar yr M4. Ond rwy'n credu, pan ddaw at y blaenoriaethau gwario rydym yn eu gwneud, mae'r ffigurau a grybwyllais ar gyfer y blaenoriaethau maniffesto, yn cymharu hefyd â £50 miliwn ar gyfer ffordd osgoi ar ben y £24 miliwn ar gyfer mannau cyfyng ar ffyrdd, a £15 miliwn ar gyfer cronfeydd rhwydwaith trafnidiaeth lleol, dwy ran o dair ohono wedi ei ragweld ar gyfer prosiectau priffyrdd. Ac mae gennym yr anghyseinedd gwybyddol hwn yr ydym wedi’i drafod yn y Siambr o'r blaen rhwng derbyn bod ein hymrwymiadau i gynllunio ar gyfer y tymor hir ac ystyried allyriadau carbon, mae gan y rheini oblygiadau polisi a gwariant y mae angen i ni eu cynnwys yn ein ffordd ni o feddwl ac nid dim ond dychwelyd i arferion y gorffennol, ac nid dim ond dychwelyd at brosiectau i ennill cefnogaeth i bleidiau gwleidyddol i ddangos eu bod wedi cael dylanwad. Nid yw hynny'n beth hawdd i'w wneud. Mae angen i ni fod yn aeddfed ynglŷn â hyn. Mae tensiwn gwirioneddol yno. Roedd yn ymrwymiad trawsbleidiol i wneud pethau'n wahanol. Os ydym yn golygu'r hyn yr ydym yn ei ddweud, mae’n rhaid i hynny gael ei adlewyrchu yn ein trafodaethau ar y gyllideb. Diolch.