Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 10 Ionawr 2017.
Rwy'n croesawu'r gyllideb hon a'r cyfle i gyfrannu at fy nhrafodaeth gyntaf ar y gyllideb derfynol fel Aelod Cynulliad dros Delyn. Croesawaf yn arbennig nifer o'r dyraniadau refeniw a chyfalaf diweddar, gan gynnwys £10 miliwn ychwanegol y flwyddyn ar gyfer gofal cymdeithasol. Rwy'n credu ei bod yn iawn i ni fynd i'r afael â'r pwysau sydd ar ofal cymdeithasol—y pwysau cynyddol wrth i bobl dyfu'n hŷn a byw yn hwy—a chydnabod swyddogaeth y gweithlu sy’n aml yn cael ei danbrisio sydd yn gofalu am ein hanwyliaid. Hefyd, y £32 miliwn ychwanegol dros bedair blynedd ar gyfer mesurau lliniaru llifogydd. Mae cymunedau yn fy etholaeth i, fel llawer o ardaloedd eraill ar draws y wlad, wedi dioddef yn enbyd oherwydd llifogydd yn y gorffennol gweddol agos, ac rwy’n gobeithio, gyda’r buddsoddiad ychwanegol hwn, y gwelwn gamau yn cael eu cymryd yn yr ardaloedd sydd eu hangen. Ac yn olaf, yr £84 miliwn ychwanegol dros bedair blynedd i gefnogi cynlluniau ffyrdd a chludiant. Mae rhwydweithiau trafnidiaeth yn hanfodol i adfywio—yr adfywio sy'n sbarduno buddsoddiad ac yn cynnal gwell swyddi yn nes at adref. Felly, mae'n bwysig i mi ac i eraill fod hon yn gyllideb sy'n rhoi sylw i, ac yn diwallu, anghenion Cymru gyfan.
Bydd £15 miliwn ychwanegol i liniaru mannau cyfyng trafnidiaeth ar draws y wlad yn rhywbeth fydd yn cael ei groesawu gan lawer o gymudwyr. Fel rhywun sy'n teithio'n rheolaidd o'r gogledd i'r de, rwy’n gwerthfawrogi'r cyfle y mae’r arian hwn yn ei ddarparu i fynd i'r afael â chyffyrdd sy'n achosi tagfeydd ac i edrych ar wella goddiweddyd ar ffyrdd allweddol o'r gogledd i'r de. Mae angen i’r un peth ddigwydd hefyd rhwng y dwyrain a'r gorllewin yn y gogledd. Mae angen yr arian ychwanegol a bydd yn dderbyniol iawn i helpu i leihau tagfeydd a'r anawsterau cyfarwydd ar yr A55 a chefnffyrdd eraill yn y gogledd, megis yr A5, yr A483 a'r A494. Bydd y £50 miliwn a gyflwynwyd i ddatblygu'r metro yn y gogledd yn arloesol ac yn ategu'r buddsoddiad yn ein ffyrdd. Bydd hefyd yn arwyddocaol i ddatblygiad economaidd y rhanbarth ac yn datgloi ein cysylltiadau â ffyniant ar draws y gogledd gyda'n cymdogion agos yng ngogledd-orllewin Lloegr. Felly, wrth symud ymlaen, rwy’n credu o ddifrif bod angen i ni wneud yn siŵr bod y buddsoddiad hwn yn gweld camau ymarferol yn cael eu cymryd i gael metro’r gogledd-ddwyrain yn barod, gyda system drafnidiaeth gyhoeddus fwy integredig, a hefyd bwrw ymlaen yn awr yn ddi-oed gyda gwelliannau mawr eu hangen i borth yr A55 i ogledd Cymru.