8. 7. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:07 pm ar 10 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 6:07, 10 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Gwnaethom adrodd ar y Bil hwn ar 16 Rhagfyr ac, yn ogystal â gwneud rhai sylwadau cyffredinol, gwnaethom dri argymhelliad. Rydym yn croesawu'r ffaith bod llythyr Ysgrifennydd y Cabinet yn gynharach heddiw wedi ymateb i'r argymhellion hynny ac, yn wir, fel y mae wedi ail-bwysleisio, mae wedi derbyn dau ohonynt. Felly, yng ngeiriau yr arbenigwr doeth hwnnw ar faterion deddfwriaethol a chyfansoddiadol, Meatloaf, ‘Two out of three ain’t bad’.

Mae'r Bil hwn yn ymdrin â materion anodd a chymhleth iawn. Felly, rydym yn croesawu'r dull y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i fabwysiadu wrth ddrafftio'r Bil, wrth gynnwys cyfranogiad cynnar ymarferwyr a thrwy geisio darparu eglurder wrth ddrafftio'r Bil. Yn benodol, rydym yn croesawu'r elfen o gydgrynhoi. Bydd hyn yn helpu i wella hygyrchedd y darn hwn o gyfraith, ac mae'n ddull y gwnaeth y pwyllgor blaenorol ei hyrwyddo yn ei ymchwiliad o’r enw ‘gwneud deddfau’. Rwy'n gobeithio y caiff y dull cadarnhaol hwn o atgyfnerthu ei ailadrodd a'i ddatblygu ymhellach ym Miliau’r Llywodraeth yn y dyfodol. Rydym, yn wir, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i ddweud, yn fodlon ar y cydbwysedd sydd wedi ei daro rhwng yr hyn sy’n cael ei gynnwys ar wyneb y Bil a'r hyn sydd ar ôl i’w gynnwys mewn is-ddeddfwriaeth.

Rydym yn nodi bod y Bil yn benthyg oddi wrth ddeddfwriaeth sylfaenol sydd eisoes yn bodoli o San Steffan a Senedd yr Alban. Fodd bynnag, roeddem o’r farn y gallai'r memorandwm esboniadol fod wedi cael ei ddefnyddio i roi rhywfaint mwy o dryloywder i randdeiliaid ar sut y mae'r Bil wedi’i ddatblygu o’r darnau hyn o ddeddfwriaeth. Roedd y Bil yn cyflwyno gweithdrefn newydd ar gyfer craffu ar is-ddeddfwriaeth, a gynlluniwyd i’n cyffroi ni ar y pwyllgor—y weithdrefn gadarnhaol adros dro. Canfuom fod y weithdrefn newydd hon yn synhwyrol mewn egwyddor, yn enwedig gan fod y Cynulliad Cenedlaethol bellach wedi cymryd y cyfrifoldebau am drethiant yn y maes hwn ac mewn rhai meysydd eraill. Ond gwnaethom hefyd gytuno â'r ffordd gyson a ystyriwyd yn ofalus o gymhwyso’r weithdrefn hon wrth wneud rheoliadau penodol o dan y Bil.

Gwnaethom, fel y soniais, ddau argymhelliad, i gael eglurhad o ddull Ysgrifennydd y Cabinet o ran rhai agweddau ar reoleiddio a wnaed o dan adran 34 ac adran 76. Rwy’n croesawu’n fawr ymateb cadarnhaol Ysgrifennydd y Cabinet yn ei lythyr yn ymateb i adroddiad y pwyllgor ac yn ei sylwadau dilynol y prynhawn yma.

Roedd ein hargymhelliad olaf yn ymwneud â rheoliadau i ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol gan ddefnyddio'r weithdrefn negyddol. Yn ein hadroddiad, roeddem yn cytuno, ac rydym yn parhau i gytuno â'r pwyllgor blaenorol, y dylai unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol a wneir gan is-ddeddfwriaeth gael eu cyflawni drwy’r weithdrefn gadarnhaol. Mae hyn, yn ein barn ni, yn sicrhau bod hawliau'r Cynulliad Cenedlaethol, o ran ei rôl graffu, yn cael eu diogelu. Ac rydym yn gwneud argymhelliad i'r perwyl hwn mewn perthynas â rheoliadau a wnaed yn unol ag adran 76(2). Wrth wneud hynny, gwnaethom fynegi siom fod y Bil hwn, Bil cyntaf Llywodraeth Cymru yn y pumed Cynulliad, yn ceisio cymhwyso'r weithdrefn negyddol i reoliadau sy'n diwygio deddfwriaeth sylfaenol. Cododd y defnydd o’r pwerau Harri'r VIII hyn, fel y’u gelwir, a'r math o weithdrefn sydd ynghlwm wrthynt, eto yn ein gwaith craffu ar y Bil treth gwarediadau tirlenwi ddoe, ac, fel yr wyf i'n siŵr y byddai'n cytuno, cawsom sgwrs agored ond cyfeillgar i gyfnewid barn gydag Ysgrifennydd y Cabinet. Felly, nid oeddwn yn synnu—nid oedd yr un o aelodau'r pwyllgor yn synnu—i weld a chlywed ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i'r argymhelliad penodol hwn.

Rydym ni, fel llawer o ymarferwyr a sylwebyddion cyfreithiol uchel eu parch, yn ystyried y mater hwn yn fater o egwyddor gyfansoddiadol, ac, am y rheswm hwnnw, rydym yn parhau i fonitro defnydd Llywodraeth Cymru o is-ddeddfwriaeth i ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol a'r weithdrefn sy'n berthnasol trwy gydol y pumed Cynulliad hwn. Ond, i gloi, gadewch i mi ddweud: er y gallai fod problemau o egwyddor gyfansoddiadol fel hyn pan fo anghytuno, rwy’n credu ei bod yn briodol i adlewyrchu cydnabyddiaeth y pwyllgor o’r ffordd adeiladol y mae ef a'i swyddogion wedi ceisio’n gyson i ymgysylltu â’r pwyllgor ac ystyried gyda pharch a chyda diwydrwydd dyladwy argymhellion y pwyllgor a’n swyddogaeth wrth sicrhau priodoldeb cyfansoddiadol a deddfwriaethol materion o'r fath mewn gwirionedd. Mae trylwyredd yr ymgysylltiad rhwng y weithrediaeth a'r ddeddfwrfa yn cynorthwyo proses graffu effeithiol, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld hyn yn parhau.