Part of the debate – Senedd Cymru am 6:11 pm ar 10 Ionawr 2017.
Prynhawn ysgafn i ni, Ysgrifennydd y Cabinet, ynte? Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon. Rwy'n credu ein bod ni ar sawl achlysur, mewn dadleuon a datganiadau dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, wedi amlygu mai treth dir y dreth stamp yw’r dreth gyntaf i gael ei datganoli i Gymru mewn sawl can mlynedd, pwynt a wnaed gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Yn wir, fel y dywedodd y Cadeirydd, dyma'r tro cyntaf y bu angen i ni wneud pethau eraill fel cael y Gofrestrfa Tir i fapio’r ffin rhwng Cymru a Lloegr yn llawn ac yn llwyr—materion nad ydym erioed wedi gorfod mynd i'r afael â nhw o'r blaen. Felly, rwy’n meddwl ei bod wedi bod yn broses fwy cymhleth nag yr oedd unrhyw un ohonom yn sylweddoli y byddai ar y dechrau. Rwy'n gweld Mike Hedges yn amneidio’n egnïol i gytuno. Rwy’n gwybod y byddai Ysgrifennydd y Cabinet a'i ragflaenydd yn cytuno â hynny.
Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn. Byddwn i’n dweud nad oes gennym, wrth gwrs, unrhyw ddewis. Mae hynny'n swnio braidd yn llym, ond, wrth gwrs, rydym ni i gyd yn gwybod mai’r gwir amdani, ar y diwrnod neu’r noson dyngedfennol honno—nid wyf yn siŵr pryd y bydd yn digwydd—ym mis Ebrill 2018, y caiff treth dir y dreth stamp y DU ei diffodd yng Nghymru, ac ar yr adeg honno, wrth gwrs, bydd angen treth yn ei lle, oherwydd dyna beth y byddem ni i gyd yn ceisio ei wneud, ac mae angen, mae'n wir, bod gennym un newydd sy'n barod ac sy’n addas at ei diben.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei atebion i rai o argymhellion y Pwyllgor Cyllid, unwaith eto, y’u cefais y bore yma? Mae'r Cadeirydd wedi cyfeirio at rai ohonynt. Rwy’n sôn yn arbennig am eich ymateb i argymhelliad 8, o ran penderfynu ar ystyriaethau o drafodiadau trawsffiniol, sydd wedi’i drafod yn fanwl yn y Siambr y prynhawn yma. Rwy'n siŵr y bydd Mike Hedges yn codi hyn—bydd—yn fwy manwl, felly ni fyddaf yn sôn rhyw lawer am hyn heblaw i ddweud efallai nad yw’n effeithio ar ddim ond lleiafrif o drafodiadau, ac mewn gwirionedd, nid oeddem yn hollol siŵr am y nifer sy'n cael eu heffeithio, ond bydd y rhai hynny mewn etholaethau ar y ffin fel fy etholaeth i, ac mae angen mynd i'r afael â'r mater hwn. Rwy'n gwybod bod llawer o waith wedi ei wneud gan Ysgrifennydd y Cabinet a'i swyddogion i sicrhau bod hynny'n digwydd. Rydym yn gwybod bod gan Gymru ffin hir, hawdd ei chroesi ac mae’n fwy agored i faterion ffiniol na'r Alban, er enghraifft. Rwy'n credu bod tua 50 y cant o'r boblogaeth yn byw o fewn 30 milltir ohoni—nid wyf yn cofio’r union ystadegau, ond mae'n agos iawn at y ffin. Felly, mae angen datrys hyn.
O ran argymhelliad 10, rwyf ychydig yn siomedig bod Llywodraeth Cymru, mae’n ymddangos, wedi gwrthod yr argymhelliad i ymgynghori cyn pennu cyfraddau a bandiau. Rwy'n credu y gallai hyn fod yn semanteg, i raddau helaeth. Rwy’n cytuno’n llwyr, a dweud y gwir, Ysgrifennydd y Cabinet, fod pennu cyfraddau a bandiau, yn y pen draw, yn fater i'r Llywodraeth, ac mae hynny’n wir yn achos Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU a gweithrediaethau eraill. Ond does dim drwg, yn fy marn i, mewn ceisio amrywiaeth mor eang â phosibl o safbwyntiau cyn pennu’r bandiau hynny. Ein nod yw bod mor dryloyw â phosibl yma, ac er nad yw Lloegr na'r Alban yn gwneud rhywbeth, nid yw hynny’n golygu na ddylem ni ystyried ei wneud, ac efallai ystyried ei wneud yn wahanol. Wedi dweud hynny, rydych chi wedi ymrwymo i ymgysylltu â rhanddeiliaid mor helaeth ag y bo modd, felly rwy’n gobeithio, fel y dywedais, mai semanteg yw hyn ac y bydd y broses hon mor gadarn â phosibl ac y bydd rhanddeiliaid yn hapus â’r canlyniad terfynol.
Rwy'n credu ein bod yn gorfod derbyn bod pryder ymhlith rhai rhanddeiliaid, ac yn naturiol felly. Mae hon yn dreth newydd; mae'n torri tir newydd i bob un ohonom. Dyma'r tro cyntaf i'r Cynulliad wneud hyn ac mae angen datrys llawer o’r problemau cyn i'r dreth fynd yn fyw. Rwy'n siŵr y bydd y profiad a gawn o’r broses hon yn helpu i ddatblygu’r dreth tirlenwi a threthi yn y dyfodol. Felly, mae'n naturiol bod y broses hon yn un anodd. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi dechrau ar y llwybr hwn gan wybod y byddai hynny'n wir.
Felly, rwy’n croesawu eich dull, Ysgrifennydd y Cabinet, ac yn wir ymagwedd y Gweinidog blaenorol, na ddylai'r system hon wyro gormod o honno sy’n bodloni ar draws y ffin oni bai bod achos cryf dros wneud hynny. Gwn mai dyna yw barn y Llywodraeth ers amser hir. Mae'n ymddangos yn wireb synhwyrol amlwg i mi; mae'n lleihau'r posibilrwydd o gael dryswch yn ystod y cyfnod pontio ac mae’n lleihau'r potensial i ystumio'r farchnad dai yng Nghymru o’i chymharu â Lloegr. Dyna fu un o'r pryderon: y byddai unrhyw bennu cyfraddau sy'n wahanol i’r rhai yn Lloegr yn peri dryswch ac aflonyddwch. Clywsom hynny yn y digwyddiad i randdeiliaid a gynhaliwyd gennym draw yn yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd y llynedd. Mae'n broblem benodol i ymarferwyr sy'n gweithredu o Loegr. Pe byddai’r holl ymarferwyr yn gweithredu’n lleol yma, mewn gwirionedd, yna gallai fod mwy o ymwybyddiaeth o'r hyn sy'n digwydd, ond yn amlwg mae angen codi ymwybyddiaeth dros y ffin yn ogystal ag yma, ac efallai y gallech chi ddweud ychydig am sut yr ydych yn bwriadu gwneud hynny.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, yr ail agwedd ar y Bil hwn, wrth gwrs, yw osgoi treth a gorfodi. Mae'r pwyllgor wedi edrych yn fanwl ar y rheol gyffredinol ar atal osgoi, y rheol wedi’i thargedu ar atal osgoi—soniodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid am hyn—ac afraid dweud, mae'n hanfodol bwysig ein bod ni’n cael hyn yn iawn. Mae hyn yn ddechrau proses. Beth oedd yr hen ymadrodd? ‘Mae datganoli yn broses nid yn ddigwyddiad.’ Wel, rwy’n meddwl mai proses yw hon hefyd, nid digwyddiad ac rydym ni i gyd yn awyddus i weithio gyda'n gilydd i wneud yn siŵr ein bod yn datblygu'r gyfundrefn dreth orau bosibl yng Nghymru dros y misoedd a'r blynyddoedd sydd i ddod, ac yn wir, gyfundrefn nad yw’n agored i osgoi trethi, nad yw ddim ond gystal â’r system dros y ffin yn Lloegr, ond sy’n rhagori arni. Mae’n rhaid mai dyna yw ein nod a’n hamcan yn y pen draw.