8. 7. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:28 pm ar 10 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless UKIP 6:28, 10 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu ei bod yn wir dweud nad oes gan fy mhlaid i yr un frwdfrydedd a chyffro tuag at ddatganoli'r dreth gyntaf yng Nghymru ers 800 mlynedd ag Aelodau eraill efallai, yn enwedig ar ochr Plaid Cymru y Siambr, ond rydym yn parchu’r rhai sy'n gweld ac yn pwysleisio arwyddocâd hynny. Ar ein taith ein hunain tua’r cyfeiriad hwn, gwnaethom wrthwynebu y mesur o ddatganoli a aeth i refferendwm yn 2011, ond pleidleisiodd pobl Cymru drosto ac rydym yn derbyn hynny. Yr hyn y gwnaethom ni geisio ei wneud yn ein maniffesto oedd cefnogi'r broses o ddatganoli fel yr oedd wedi datblygu ac, yn benodol, yr hyn a oedd wedi ei gytuno yng nghytundeb Dydd Gŵyl Dewi. Roeddem efallai yn credu bod ei gynnwys yno—ac efallai bod y gred honno ychydig yn ddiniwed—ei fod yn mynd i fod yn setliad datganoli clir ar gyfer Cymru sy'n sefyll prawf amser. Ac fel yr ydym ni wedi’i weld gyda chynnydd a datblygiadau Bil Cymru a rhai o'r trafodaethau am hynny, rwy’n meddwl efallai bod ein brwdfrydedd dros hynny wedi lleihau.

Serch hynny, y dreth trafodiadau tir oedd un o'r ddwy dreth a oedd yn rhan o'r consensws eu bod am gael eu datganoli, ac yn hytrach na pharhau â'r broses o fogailsyllu cyfansoddiaol neu anghytuno er mwyn gwneud hynny, fe wnaethom ddweud y byddem yn parchu’r penderfyniad a chefnogi datganoliad y dreth benodol hon a gytunwyd ag eraill, ynghyd â'r ardoll y byddwn yn ei gweld ar waredu safleoedd tirlenwi. Nid dyna ein safbwynt ar dreth incwm heb y refferendwm a addawyd, fodd bynnag, rydym yn dymuno bod yn adeiladol o ran y dreth trafodiadau tir. A hefyd, i'r graddau yr ydych chi’n ystyried pa dreth gymharol fach sy’n synhwyrol i’w datganoli, mae yna ddadleuon da dros ddewis hon. Yn y tymor hwy, mae’n bosibl y bydd yna gyfleoedd i ystyried sut y mae’r dreth stamp, neu, yma, y dreth trafodiadau tir, yn cysylltu â’r dreth gyngor ac ardrethi busnes, ac fe allai datganoli’r tair elfen hynny a all godi refeniw, o leiaf mewn egwyddor, ganiatáu ystyriaeth dda o’r ffyrdd y gellir eu cyfuno’n well os oes yna ddadleuon am hynny.

Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am y ffordd y mae wedi ymgysylltu â’r Pwyllgor Cyllid wrth i gyfnod cyntaf y broses hon fynd rhagddo. Yn gynnar yn ystod y broses, roeddwn yn poeni ei bod yn ymddangos bod rhai elfennau o'r Bil yn newid ychydig ar y rheolau sy’n ymwneud ag osgoi mewn ffordd er mwyn cyfleu neges ynglŷn â pha mor wrthwynebus yr ydym i osgoi trethi, ac roedd gennym ni rai pryderon ynghylch defnyddio deddfwriaeth at y diben hwnnw—cyfleu neges a mân newidiadau yn y diffiniad a allai arwain at gymhlethdod mawr a dadleuon mewn llysoedd ac ansicrwydd ynghylch diben y ddeddfwriaeth. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi lleddfu’r pryderon hynny i raddau helaeth, ac wedi ymdrin â rhai o’r pwyntiau a godais i yn enwedig, wrth iddo fagu hyder wrth egluro’r ddeddfwriaeth a’n tywys ni drwy rai manylion eithaf technegol mewn gwirionedd wrth i'r broses barhau. Rwy'n credu fy mod i nawr yn deall pam y mae’n rhaid i’r rheol atal osgoi sydd wedi’i thargedu gynnwys trethi nad ydynt wedi'u datganoli, ond nad oes yn rhaid i’r rheol atal osgoi gyffredinol wneud hynny, ond yr wyf yn cadw fy hawl i ailystyried hynny wrth i ni fynd i mewn i Gyfnod 2.

Rwy'n credu ei bod yn iawn nad ydym wedi treulio amser yn edrych ar ddatgelu cynlluniau osgoi treth arbennig ar gyfer Cymru, a fyddai'n mynd dros ben llestri. Ac nid yw hyd yn oed y rhai y mae’n well ganddynt, mewn egwyddor, i Gymru fod â threfniadau deddfwriaethol ar wahân wedi pwyso ar y pwynt hwnnw, ac rwy’n credu ein bod ni wedi llwyddo i weithio mewn ffordd ymarferol ar lawer o’r materion hyn.

Rwy’n bryderus ynghylch y ffordd y caiff y mesurau yn y Bil hwn eu cyfathrebu i’r proffesiwn cyfreithiol yn Lloegr, a pha un a fyddai hyn yn arwain yn y dyfodol, er enghraifft, at fod pobl a allai fod yn symud o Loegr i Gymru, gan ddefnyddio cyfreithiwr yn Lloegr na fyddai’n delio â thrafodion yng Nghymru yn aml iawn—a fyddai’r cyfreithiwr hwnnw yn teimlo bod modd iddo ymgymryd â hynny, neu a fyddai’n rhaid iddo drosglwyddo’r broses honno i gwmni o gyfreithwyr yng Nghymru, a allai gefnogi'r proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru ond a allai hefyd beri anghyfleustra i bobl mewn amgylchiadau o'r fath?

Rwy'n meddwl mai’r peth pwysig yw bod cyfreithiwr, mewn sefyllfa pan nad yw o bosibl wedi astudio’r cyd-destun Cymreig penodol gymaint ag y dylai, sy’n ceisio talu'r dreth trafodiadau tir yn yr un ffordd ag arfer i CThEM—ei bod yn bwysig iddo gael neges glir a chyflym nad dyna sydd ei angen, a’i fod yn cael ei gyfeirio at ganllawiau priodol ynghylch sut i wneud y taliad priodol i Awdurdod Cyllid Cymru, sydd wrthi’n cael ei sefydlu.

Yn olaf, o ran rhai o'r pwyntiau yr aeth Mike Hedges i’r afael â hwy, nid wyf yn credu bod yna unrhyw obaith difrifol o adeiladu tai ar hyd y ffin oherwydd y fantais dreth fawr o wneud hynny. Rwy'n credu mai ymylol yw unrhyw fantais o ran treth ac yn sicr nid yw’n mynd i esgor ar gynnydd mawr mewn adeiladu. Rwy’n credu bod angen darpariaeth tai ychwanegol arnom ni. Ond rwy’n credu bod yna faterion, ac, ar y cyfan, os oes gan rywun eiddo sy'n sefyll ar draws y ffin, bydd yn wir weithiau bod swm y dreth a delir yn llai. Dyna yw natur ein system gynyddol, sy’n golygu, wrth i bris y tŷ godi, bydd y rhai ar yr ymylon yn talu cyfradd ychydig yn uwch uwchlaw trothwyon penodol. Os bydd y gost gyffredinol wedi ei rhannu, a’ch bod chi’n talu treth ar bob elfen, yna bydd y dreth gyfan naill ai yr un faint neu’n llai, ond ni fydd yn fwy. Yr hyn yr wyf i'n poeni amdano yw ein bod ni’n osgoi treulio llawer iawn o amser yn ceisio dadansoddi’n fanwl iawn sut yr ydych chi’n mesur pa ran sydd yn Lloegr a pha ran sydd yng Nghymru pan, mewn gwirionedd, ar y cyfan, mae'r canlyniadau o ran y refeniw yn debygol o ddod yn gyfartal. Felly, yn gynharach, clywsom gan Ysgrifennydd y Cabinet eich bod yn dosrannu trethi yn ôl faint o gyfran o’r eiddo sydd yn y naill le neu’r llall, sef yng Nghymru neu yn Lloegr, ond o’m rhan i, ar ôl mwy o fyfyrio ac astudio, rwy’n gobeithio y byddwch chi’n derbyn mai’r hyn sy’n ofynnol yw dosraniad cyfiawn a rhesymol. Rwy’n edrych ymlaen at ddadlau dros y posibilrwydd mai rhaniad cyfartal fyddai’r dosraniad cyfiawn a rhesymol hwnnw, a hynny’n syml oherwydd y byddai’r costau o ymchwilio i bob achos o ba gyfran o’r ardal gyfan o dir, neu’r union gyfran o’r ardal yr adeiladwyd arni, sydd yng Nghymru a pha gyfran sydd yn Lloegr yn mynd i arwain at lawer o fiwrocratiaeth a chostau heb esgor ar unrhyw fantais gyffredinol pan fo llif yr arian, mewn gwirionedd, yn debygol o fod yn gyfartal yn y pen draw. Diolch.