8. 7. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:22 pm ar 10 Ionawr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 6:22, 10 Ionawr 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddod â nodyn o rybudd i’r trafodaethau yma? Cofiwch fod hon yn dreth sy'n gyfnewidiol os ydych yn gylchol, a’i bod yn cael ei heffeithio’n fawr gan newidiadau yn yr economi. Gwelsom yr hyn a ddigwyddodd iddi yn 2008 a 2009 pan fu cwymp yn economi Prydain, ac aeth swm y dreth stamp i lawr. Felly, rwy'n falch iawn o’i gweld yn cael ei datganoli, ond nid yw’n golygu bod pawb ar eu hennill drwy’r amser, ac mae lefel o berygl, lefel o risg, sy'n rhan annatod ohoni, a bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ymdrin â hynny. Rwy'n siŵr, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud—. Ac rwyf hefyd yn croesawu penderfyniad unfrydol y Pwyllgor Cyllid y dylai egwyddor gyffredinol y Bil gael ei chytuno gan y Cynulliad Cenedlaethol. Gobeithio y bydd y cynigion i symud i Gyfnod 2 hefyd yn cael eu cytuno gan y Cyfarfod Llawn hwn. Rwyf hefyd yn gobeithio y byddwn ni yn y Siambr heddiw yn gallu dyblygu’r unfrydedd a gafwyd ar yr argymhelliad hwn gan y Pwyllgor Cyllid.

Er ei bod yn bwysig bod pob deddfwriaeth yn rhydd rhag bylchau, yn ymdrin â gwrthdaro ac yn gyson drwyddi draw, mae'n arbennig o wir y nachos deddfwriaeth dreth. Er nad oedd gan y ddeddfwriaeth gyntaf a basiwyd yn y pedwerydd Cynulliad, Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012, ymhlith pethau eraill, y mecanwaith i ddatrys anghydfodau rhwng sir neu fwrdeistrefi sirol a chynghorau cymuned neu dref ynglŷn â gweithredu is-ddeddfau, nid yw hyn wedi creu problemau eto. Bydd unrhyw fwlch neu anghysondeb mewn deddfwriaeth dreth yn cael ei hecsbloetio ddidrugaredd, a bydd yn arwain at ostyngiad yn yr arian sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau Cymru. Felly mae'n hanfodol nad oes bylchau yn y ddeddfwriaeth hon a bod y drafftio yn gywir. A chofiwch y bydd yna bobl sy'n ennill symiau mawr iawn o arian, a’u prif nod mewn bywyd fydd dod o hyd i fylchau ynddi, i ddod o hyd i ffyrdd o osgoi trethi arni, a byddant wedi treulio oriau yn ceisio dod o hyd i unrhyw ffordd o’u hosgoi, fel y maent yn ei wneud gyda phob math o drethi eraill.

Er bod drafftio'r ddeddfwriaeth mor bwysig, mae cael cytundeb dim-niwed gyda'r Trysorlys yn ôl pob tebyg yn fwy pwysig. Cofiwch fod Llundain yn ddinas ryngwladol. Caiff eiddo cost uchel yn Llundain ei brynu gan bobl o bob rhan o'r byd ac wrth i’r bunt ostwng mewn gwerth, fel y mae wedi gwneud ers mis Mehefin, yna bydd y gost o eiddo mewn doleri, ewros ac arian cyfred arall yn gostwng, gan arwain at gynnydd ym mhrisiau eiddo yn Llundain mewn punnoedd. Gan fod gostyngiadau pellach yng ngwerth sterling o’i gymharu ag arian arall yn debygol yn y ddwy flynedd nesaf, mae gwerth eiddo yn Llundain mewn punnoedd yn debygol o gynyddu. Os ydym ni’n pennu cyfran sefydlog o dreth trafodiadau tir o’r dechrau, yna wrth i brisiau Llundain gynyddu, ni waeth beth y mae Llywodraeth Cymru neu'r Cynulliad hwn yn ei wneud, rydym yn rhwym o golli. Felly, mae angen inni beidio â chael unrhyw niwed yno. Mae Llundain yn wahanol ac rwy'n credu bod angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn datrys hynny, neu byddwn yn talu pris uchel iawn.

Gan ddychwelyd at y ddeddfwriaeth arfaethedig ac adroddiad y Pwyllgor Cyllid, mae materion trawsffiniol yn peri pryder i mi, er nad oedd pob un o aelodau'r pwyllgor mor bryderus.

‘Argymhelliad 7: Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol gytuno ar y darpariaethau yn y Bil hwn, dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu’r Gofrestrfa Tir i wneud y gwaith o ddarparu map o'r ffin rhwng Cymru a Lloegr yn barod ar gyfer cychwyn Treth Trafodiadau Tir.’

Mae angen dybryd i’r ffin fod yn wybyddus i’r Gofrestrfa Tir cyn cychwyn y Ddeddf er mwyn i'r dreth gywir gael ei thalu i'r corff cywir. Pan ddechreuodd y pwyllgor yr ymchwiliad i hyn, ychydig iawn o eiddo a nodwyd yn rhai trawsffiniol. Cynyddodd y nifer yn gyflym drwy'r cannoedd, ac rwy'n credu bod y ffigur olaf a oedd gennym o bosibl yn fwy na 1,000. Arweiniodd hyn at argymhelliad 8:

‘Mae'r Pwyllgor yn argymell bod rhagor o wybodaeth yn cael ei chynhyrchu gan Lywodraeth Cymru i egluro sut y mae'n bwriadu i'r ddeddfwriaeth bennu dosraniad yr ystyriaeth sy’n daladwy ar drafodion eiddo trawsffiniol. Dylai'r wybodaeth hon gynnwys materion fel “dosraniad cyfiawn a rhesymol”, ac eglurder ar y gofyniad ar gyfer dau drosglwyddiad ar gyfer trafodiadau trawsffiniol. Dylai'r wybodaeth hon fod ar gael cyn unrhyw ystyriaethau Cyfnod 2.’

Rwy’n meddwl bod yn rhaid i chi gofio, os nad ydym ni’n gwneud hyn yn iawn, y byddwn yn gwybod yn iawn ble mae ffin Cymru oherwydd bydd yna res hir o dai ac adeiladau ar ei hyd, gan y bydd hynny’n fodd o leihau treth pobl—y swm y mae'n rhaid iddyn nhw ei dalu. Felly, nid wyf yn meddwl ein bod yn awyddus i’w hadnabod fel stryd sy'n mynd o'r ffin ym Mynwy yr holl ffordd i fyny at y man lle mae'n cyffwrdd â Chilgwri. Rwy'n credu mai’r hyn yr ydym yn dymuno ei wneud yw cael ffin nad yw wedi ei gorchuddio gan dai ac adeiladau eraill, oherwydd nid ydym am roi’r cymhelliant hwnnw i adeiladu ar hyd y ffin, a fydd yn digwydd os yw'n fodd o arbed treth. Felly, mae'n bwysig nad yw'r cymhelliad hwnnw yn bodoli.

Mae'r ddeddfwriaeth yn angenrheidiol oherwydd, fel y dywedodd Nick Ramsay, maent yn diffodd y tap yn 2018 ac os nad ydym yn rhoi'r tap yn ôl ymlaen ar unwaith, bydd yna fwlch yn y swm o arian sy’n dod i mewn i Gymru. Ond y mae’n hynod o bwysig nad oes unrhyw fylchau neu gymhellion gwrthnysig yn bodoli.

Yn olaf, rwy’n gobeithio y gallwn gynnig cefnogaeth unfrydol i symud i Gyfnod 2, yn union fel y cafwyd gan y Pwyllgor Cyllid, oherwydd rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn er mwyn symud trethi ymlaen yng Nghymru.