Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 11 Ionawr 2017.
Diolch am y cwestiwn. Nid oes unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru eto wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru yn chwilio am gymorth ar gyfer peilot incwm sylfaenol. Serch hynny, rwyf yn bwriadu monitro cynnydd y gwaith ymarferoldeb sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd yn Fife a Glasgow. Er bod angen ymdrin â chwestiynau cymhwyster yma, mae incwm sylfaenol cyffredinol yn gallu gwneud cyfraniad sylweddol at fynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb.