Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 11 Ionawr 2017.
Rwy’n croesawu sylwadau’r Ysgrifennydd Cabinet, ac mae wedi cyfeirio, wrth gwrs, at yr arbrawf arfaethedig yn yr Alban. Mae yna gefnogaeth helaeth, rwy’n credu, i’r syniad nawr, ar draws y sbectrwm gwleidyddol ac, ie, ar y chwith—rhaid cofio mai Milton Friedman, wrth gwrs, oedd un o hyrwyddwr cynnar y syniad, a Richard Nixon a gynhaliodd y cynllun peilot cyntaf erioed. Pe bai llywodraeth leol am arbrofi, oni ddylem ni gymryd y cyfle yma i edrych ar sut gall y syniad hynod arloesol yma gyfrannu tuag at lesiant ein pobl yn arwain at y dyfodol?